Skip to content

Arolygiad Teirblynyddol Uned Ddiogel Hillside yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Arolygiad Teirblynyddol Uned Ddiogel Hillside yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot

Prif ganolbwynt yr arolygiad oedd lles plant a phobl ifanc a diben yr arolygiad oedd asesu.
Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd can Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC), a oedd yn cynnal arolygiad trwyddedu teirblynyddol Canolfan Ddiogel Hillside er mwyn cael cymeradwyaeth barhaus yr Ysgrifennydd Gwladol am ddarparu llety diogel, Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC), a oedd yn cynnal eu harolygiad blynyddol a gyhoeddwyd, ac Estyn (yr arolygiaeth addysg) a arolygodd ddarpariaeth addysg yn yr adeiladau. Digwyddodd mewn dau gam: rhwng 27 a 31 Hydref 2003 (AGCC ac ASGC) a rhwng 9 ac 11 Chwefror 2004 (Estyn). Cynhaliwyd yr arolygiad yn unol ag Adran 80 o Ddeddf Plant 1989 a rheoliad 3 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) 1991.