Arolygiad o wasanaethau i oedolion a nam corfforol neu nam ar eu synhwyrau Yng Nghyngor Bwrdeistraf Sirol Rhondda Cynon Taf
Yr arolygiad hwn yw’r pedwerydd mewn cyfres o chwech ledled Cymru sy’n archwilio ystod ac ansawdd gwasanaethau a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol i oedolion ag anabledd corfforol a/neu nam ar eu synhwyrau. Mae’n edrych ar ba mor dda y mae pobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd yn cael eu gwasanaethu a pha mor dda yw sefyllfa’r Cyngor i gynnal, gwella a datblygu gwasanaethau o ansawdd da.
Yn ystod yr arolygiad bu arolygwyr yn sgwrsio gydag aelodau a swyddogion y Cyngor; defnyddwyr gwasanaeth; grwpiau defnyddwyr a gofalwyr; cynrychiolwyr yr Awdurdod Iechyd a’r ddwy Ymddiriedolaeth GIG; a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol. Buont yn archwilio amrywiaeth eang o ddogfennau, gan gynnwys sampl o ffeiliau achos.
Gwnaed pymtheg o argymhellion i gynorthwyo’r awdurdod i ddatblygu ymhellach eu gwasanaethau anabledd.
