Skip to content

Adolygiad o wasanaethau oedolion Dinas a Sir Abertawe

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Adolygiad o wasanaethau oedolion Dinas a Sir Abertawe

Cafodd yr adolygiad hwn o wasanaethau oedolion yn ninas a sir Abertawe ei wneud rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2005.

Mae dwy brif ran i’r adolygiad. Mae’r rhan gyntaf, sy’n gyffredin i’r holl awdurdodau, yn cynnwys ystyried gwybodaeth a gafwyd ymlaen llaw oddi wrth yr awdurdod lleol ac o ffynonellau eraill, sampl o ffeiliau achos, ac arolygon ar ffurf holiaduron a anfonir i sampl o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. (Yn Abertawe, anfonwyd holiaduron at 250 o ddefnyddwyr gwasanaethau a 250 o ofalwyr teuluol.) Gellir anfon holiadur arolygu gwahanol at yr holl staff rheoli gofal a sampl o weithwyr eraill. Bydd tîm adolygu yn cwrdd ag uwch reolwyr, cynrychiolwyr cyrff sy’n bartneriaid a grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Mae’r asesydd lleyg yn chwarae rhan bwysig drwy ymweld â sampl o wasanaethau gofal cymdeithasol lleol sy’n cael eu darparu a’u trefnu gan y Cyngor.

Yn yr ail ran, bydd y tîm adolygu’n cwrdd â defnyddwyr gwasanaethau unigol ac yn edrych yn fanwl ar feysydd gwasanaeth penodol, sydd wedi’u dewis yng ngoleuni dadansoddiad o’r wybodaeth a gafwyd yn y rhan gyntaf. Edrychir ar anghenion corfforaethol y gwasanaethau cymdeithasol a’r cyfraniad at gyflawni amcanion y Cyngor, ynghyd â gallu’r awdurdod i gynnal a gwella gwasanaethau.