Llythyrau cyfarwyddwyr – Adolygiad cenedlaethol o fynediad a chymhwysedd mewn gofal cymdeithasol oedolion
Yn ddiweddar, cynhaliodd AGGCC adolygiad cenedlaethol o fynediad a chymhwysedd mewn gofal cymdeithasol oedolion mewn ymateb i bryderon cynyddol gan ystod o randdeiliaid.
Mae Cyfarwyddwyr Rhanbarthol ledled Cymru wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ym mhob awdurdod lleol sy’n cymryd rhan yn y gwaith maes, ynglŷn â’r cwestiynau allweddol ar gyfer yr adolygiad, i gefnogi a chynorthwyo eu gwelliannau eu hunain. Bydd AGGCC hefyd yn llunio adroddiad gorolwg Cymru gyfan yn cynnwys negeseuon allweddol o’r gwaith maes a’r arolwg.
