Arolgaid gwasanaethau amddiffyn plant yng Nghyngor Bro Morgannwg
Mae'r arolygiad hwn yn edrych ar natur, amrediad ac ansawdd y gwasanaethau amddiffyn plant a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yng Nghyngor Bro Morgannwg.
Mae’r awdurdod wedi gwneud cynnydd nodedig ar lefelau gwleidyddol, corfforaethol a strategol wrth ymateb i ganfyddiadau’r cydadolygiad. Mae’r newidiadau hyn eto i gael effaith arwyddocaol a chadarnhaol ar gyflenwi gwasanaethau plant rheng flaen. Rhaid i Fro Morgannwg ganfod ffyrdd o ddefnyddio’i staff rheng flaen, yn rheolwyr ac ymarferwyr, fel adnodd allweddol yn y broses o wella gwasanaethau.
