Skip to content

Gwerthuso Perfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2007

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwerthuso Perfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2007

Mae'r gwerthusiad hwn yn seilledig ar dystiolaeth a gasglwyd gan AGGCC a deunydd a gyflwynwyd gan yr awdurdod.
Bu llawer o gynnydd o ran datblygu strategaethau comisiynu mewn gwasanaethau oedolion a phlant. Mae’r awdurdod wedi ymgysylltu’n dda â’i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus wrth ailfodelu gwasanaethau, ac mae yna agenda fawr a heriol ar gyfer newid. Mae newid cyfundrefnol sylweddol wedi bod yn amlwg, yn enwedig yn rhan gyntaf y flwyddyn. Mae yna arwyddion clir bod cynllunio gwasanaethau a rheolaeth ariannol wedi bod yn gryfderau allweddol. Mae gwelliannau'n amlwg o ran dyrannu achosion mewn gwasanaethau plant, a bu hyn yn achos pryder sylweddol mewn adolygiadau AGCC yn y gorffennol. Mae gan yr awdurdod ddull cynhwysfawr a chynhwysol o fynd ati i werthuso’i berfformiad. Gellid ei wella ymhellach trwy ganolbwyntio’n fanylach ar werthuso cynnydd yn y canlyniadau allweddol.