Gwerthuso Perfformiad Dinas a Sir Abertawe 2007
Fel y nodwyd yng ngwerthusiad y llynedd, un o’r ffactorau sy’n rhwystro’r awdurdod rhag gwella perfformiad mewn perthynas ag asesu a rheoli gofal yn y gwasanaethau plant yw’r anawsterau gyda’r gweithlu. Mae staff asiantaeth a staff dros dro yn llenwi cyfradd uchel o’r swyddi gwag. Mae’r awdurdod wedi cytuno bod angen parhau i wella yn y maes hwn.
Mae’r awdurdod yn parhau i symud ymlaen â’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaethau i oedolion. Mae angen parhau i wella’r gwasanaethau i bobl hyn. Mae’r awdurdod wedi gwella o ran cefnogi mwy o bobl yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag mewn gofal preswyl. Mae’r gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu i’w gweld yn gryf iawn, a gwelwyd ambell i enghraifft o arfer da y byddai’n ddefnyddiol eu rhannu ag awdurdodau eraill. Fel y nodwyd yn adolygiad y llynedd, mae angen trosglwyddo’r agwedd arloesol hon i wasanaethau eraill ar gyfer grwpiau cleientiaid eraill.
