Gwerthuso Perfformiad Dinas a Sir Caerdydd 2007
Mae'r awdurdod wedi ceisio fframwaith mwy strategol ar gyfer ei waith o lywio patrymau gwasanaethau a hyrwyddo diwylliant proffesiynol ymhlith aelodau'r staff, wedi'i gyfarwyddo gan systemau gwybodaeth am berfformiad.
Cyflawnwyd gwaith sylweddol ac mae'r awdurdod yn parhau i wneud cynnydd o ran y blaenoriaethau hyn. Mae rhagor i'w wneud o hyd, yn enwedig o ran prosesau cynllunio ac adolygu achosion yn ogystal â datblygu partneriaethau cryfach a throi cyfeiriad strategol yn realiti gweithredol. Yr her i'r awdurdod fydd cynnal y momentwm sydd ei angen i gydgrynhoi ac adeiladu ar welliannau a sicrhawyd hyd yn hyn. Mae cefnogaeth gorfforaethol a gwleidyddol sylweddol i waith y gwasanaethau cymdeithasol a bydd angen cynnal yr ymroddiad hwn i arweinyddiaeth effeithiol. Mae'n rhaid i welliannau mewn canlyniadau i ddefnyddwyr barhau i fod y sbardun allweddol ar gyfer newid.
