Skip to content

Gwerthuso Perfformiad Cyngor Bro Morgannwg 2007

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwerthuso Perfformiad Cyngor Bro Morgannwg 2007

Mae'r gwerthusiad hwn wedi ei seilio ar dystiolaeth a gasglwyd gan AGGCC a deunydd a gyflwynwyd gan yr awdurdod.
Ym mis Chwefror 2007, adroddodd y Cydadolygiad fod y gwasanaethau cymdeithasol yn dda ar y cyfan a bod y Cyngor mewn sefyllfa ansicr o ran cynnal a gwella gwasanaethau. Mae’r wybodaeth ar gyfer y flwyddyn 2006-7 gyfan yn dangos bod y gwasanaethau asesu a rheoli gofal ar gyfer plant ac oedolion dan bwysau mawr, gydag oedi ac aros o ran asesu. Mae ansawdd asesiadau ar draws y gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fod yn anghyson. Nid yw rheoli ac adolygu achosion y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed, megis plant sydd angen eu hamddiffyn a phlant sy’n derbyn gofal, yn gyson. Mae’r trefniadau ar gyfer amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed wedi gwella’n gyffredinol, er bod cynnal cyfarfodydd strategaeth prydlon ar gyfer amddiffyn oedolion mewn cartrefi gofal wedi bod yn destun oedi annerbyniol ar adegau. Mae’r trefniadau ar gyfer adolygu plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant wedi bod yn anfoddhaol.