Skip to content

Gwerthuso Perfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd 2007

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwerthuso Perfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd 2007

Mae'r gwerthusiad hwn yn seiledig ar dystiolaeth a gasglwyd gan AGGCC a deunydd a gyflwynwyd gan yr awdurdod.
Mae’r awdurdod lleol wedi darparu tystiolaeth ffeithiol briodol i ddangos y cynnydd a gyflawnwyd hyd yn hyn. Mae’r awdurdod yn parhau i ddangos gwelliannau ar draws pob maes gwasanaeth, ac yn dilysu’r cynnydd pellach yn y defnydd o wybodaeth rheoli strategol fel rhan annatod o’i brosesau cynllunio strategol a gweithredol. Mae llawer o’r elfennau cynllunio strategol sylfaenol wedi’u sefydlu bellach. Mae’r awdurdod, yn ddealladwy, yn troi ei sylw at fesur canlyniadau a gwerth am arian o ran gwella cymorth ac ymyrraeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Ar yr un pryd, mae cynnydd wedi bod o ran monitro cyfraddau a phatrymau newidiol o ran y galw am wasanaethau, ynghyd â gallu meysydd gwasanaeth i ymateb. Mewn rhai meysydd, mae angen i’r awdurdod gynyddu ei gyfradd gwella o ran gweithdrefnau asesu a rheoli gofal.