Gwerthuso Perfformiad Cynogr Sir Penfro 2007
O werthusiad o berfformiad eleni, mae'n amlwg y bu gwelliant yn y gwasanaeth atgyfeirio ac asesu yn y timau plant. Mae cynllunio amddiffyn plant yn fwy systematig ac eglur ac mae adolygiadau o blant sy'n derbyn gofal yn fwy prydlon. Mae'r system integredig ar gyfer plant yn cael ei gweithredu ac mae goruchwylio gan reolwyr yn fwy amlwg a chadarn. Mae'r awdurdod wedi cwblhau'r camau a amlinellwyd yn y Cynllun Gweithredu yn dilyn arolygiad o'r gwasanaethau i blant.
Yn y gwasanaethau i oedolion, mae'r awdurdod yn parhau i ddatblygu ystod ei wasanaethau ar gyfer pobl hyn gan ganolbwyntio ar ailalluogi. Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn dangos gwelliant o fis i fis. Mae nifer cynyddol o oedolion yn derbyn taliadau uniongyrchol ac mae nifer cynyddol o atgyfeiriadau o ran amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed. Bydd y strategaeth gomisiynu ar gyfer gwasanaethau i oedolion yn cael ei gweithredu'n llawn yn 2007/8.
Cafwyd mwy o arian er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau yn y gwasanaethau i blant a'r gwasanaethau i oedolion. Mae swyddi ychwanegol wedi'u creu ac mae cynllunio'r gweithlu yn fwy amlwg.
