Gwerthuso Perfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen 2007
Darparodd yr awdurdod lleol wybodaeth eang a defnyddiol yn ei hunanasesiad. Fe ddylai, yn y dyfodol, fod â’r hyder i ddadansoddi’n fwy manwl y meysydd hynny sydd angen eu gwella.
Ym mis Chwefror 2006, daeth adroddiad cydadolygiad o’r gwasanaethau cymdeithasol i’r casgliad fod y Cyngor wedi gwella’n fawr ers yr adolygiad blaenorol; roedd yn darparu gwasanaethau da ar y cyfan, ac roedd mewn sefyllfa dda i gynnal a gwella gwasanaethau ymhellach. Mewn sawl agwedd ar y gwasanaeth, mae’r Cyngor wedi parhau i sicrhau bod gwasanaethau sy’n dda neu’n foddhaol ar y cyfan ar gael. Y prif eithriad i hyn yw’r dirywiad parhaus yn ei ddarpariaeth gofal ar gyfer yr henoed sydd angen eu lleoli mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio ar ôl eu rhyddhau o’r ysbyty. Os nad unionir hyn, bydd yn fygythiad i enw da’r awdurdod ac yn aflunio blaenoriaethau eraill.
