Skip to content

Gwerthuso Perfformiad ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd 2006

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwerthuso Perfformiad ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd 2006

Mae’r gwerthusiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan AGGCC a deunydd a gyflwynwyd gan yr awdurdod.
Gan ddechrau o bwynt isel iawn, mae’r awdurdod wedi dal ati i wneud
gwelliannau cyson dros y ddwy flynedd diwethaf – gan gynnwys gwelliannau
yn y meysydd a enwyd yng ngwerthusiad perfformiad 2004-05.
• Rhoi’r cynllun gweithredu ar waith yn dilyn adolygiad AGGCC o’r
gwasanaethau plant;
Rhoi cynllunio busnes a rheoli perfformiad unigolion ar waith yn yr holl
sefydliad;
• Datblygu a rhoi ar waith strategaethau gwasanaeth a phrosesau
comisiynu effeithiol sy’n gweddu i anghenion a gwasanaethau oddi
mewn i fframwaith cyllidol cadarn;
• Rhoi rhan i ddefnyddwyr gwasanaethau wrth adolygu, cynllunio a
datblygu gwasanaethau.

Mae llawer i’w wneud eto er mwyn sicrhau bod gwelliannau’n cael eu rhoi ar
waith yn gyson drwy’r holl wasanaethau. Mae angen gwell perfformiad o hyd
o ran asesu a rheoli gofal, yn enwedig gyda chynllunio gofal ar gyfer plant.
Bydd yn gryn her ailfodelu rhannau helaeth o’r gwasanaethau er mwyn
gwella’r canlyniadau i ddefnyddwyr a gwella effeithlonrwydd a bydd angen
rhoi sylw manwl ar y trefniadau partneriaeth. Bydd yn golygu canolbwyntio’n
ofalus ar drefniadau partneriaeth. Mae pwysau eisoes ar y gyllideb ac mae’n
debygol y bydd hynny’n cynyddu.

Mae’r awdurdod wedi gweithio’n galed er mwyn cynyddu ei gapasiti a’i hyder
ac mae diwylliant mwy proffesiynol yn dod i’r amlwg. Bydd angen i’r
awdurdod barhau i fuddsoddi trwy gynnig ymrwymiad mawr a llawer o
arweiniad ar bob lefel yn y sefydliad er mwyn adeiladu ar sail y gwelliannau a
sicrhawyd eisoes.