Skip to content

Gwerthuso Perfformiad ar Gyfer Cyngor Sir Gwynedd 2006

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwerthuso Perfformiad ar Gyfer Cyngor Sir Gwynedd 2006

Mae’r gwerthusiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan AGGCC a deunydd a gyflwynwyd gan yr awdurdod.
Mae’r awdurdod wedi gwneud cryn dipyn o waith er mwyn casglu mwy o
wybodaeth ar gyfer rheoli perfformiad a gwneud mwy o ddefnydd o’r
wybodaeth hon. Mae tystiolaeth fod hyn yn arwain at welliannau mewn
gwasanaethau, yn enwedig yn y Gwasanaethau Plant.

Mae’n ymddangos bod gan yr awdurdod weledigaeth strategol glir o’r hyn y
mae’n dymuno ei gyflawni a’i bod yn sefydlu’r strwythurau angenrheidiol er
mwyn ei gyflawni.

Mae’r Gwasanaethau Oedolion wedi parhau i ail-lunio gwasanaethau i gefnogi
pobl er mwyn iddynt fyw yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain. Er bod
ymrwymiad clir ar bob lefel i ganolbwyntio mewn modd gwahanol yn y
gwasanaethau, araf yw’r cynnydd tuag at y nod hwn ac mae adnoddau’n
gorfod cael eu hailgyfeirio.

Yn y Gwasanaethau Plant mae systemau wedi’u sefydlu er mwyn gwella’r
modd y caiff atgyfeiriadau eu prosesu ac er mwyn gwerthuso pa mor effeithiol
ydynt. Mae’r data a ddarparodd yr awdurdod yn dangos bod canran yr
atgyfeiriadau lle gwnaed penderfyniad o fewn un diwrnod gwaith wedi
cynyddu 10%, o 88% yn chwarter olaf 2005/6 i 99% yn chwarter cyntaf eleni.
Nid yw’r awdurdod wedi rhoi Asesu Unedig ar waith eto yn y Gwasanaethau
Oedolion ac ni fydd yn rhoi’r System Blant Integredig ar waith erbyn 31
Rhagfyr 2006. Serch hynny, y rheswm am hyn yw na dderbyniodd yr
awdurdod eu datrysiad TG ac fe ddylent roi’r ddwy fenter hyn ar waith yn
ystod y flwyddyn sydd i ddod.