Gwerthuso perfformiad ar gyfer Cyngor bwrdeistref Sirol Castellnedd Port Talbot 2006
Mae’r gwerthusiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan AGGCC a deunydd a gyflwynwyd gan yr awdurdod
Mae’r awdurdod wedi adnabod y risg sy’n dod yn sgil targedau effeithlonrwydd a bydd yn rhaid iddo fonitro’r perfformiad a’r modd y cyflwynir gwasanaethau er mwyn gwerthuso hyn. Mae’r awdurdod wedi adnabod nifer o heriau pwysig yn ei Wasanaethau Plant, gan gynnwys cynnydd yn y galw, y perfformiad mewn asesiadau a rheoli’r gyllideb a’r pwysau sydd ar y gyllideb. Mae wedi dechrau gweithio mewn nifer o ffyrdd i fynd i’r afael â’r rhain. Mae wedi parhau i wneud cynnydd o ran rhoi’r System Blant Integredig ar waith, gan gynnwys ymestyn hyn i rai o’r ysgolion.
Mae gwaith cryf ac effeithiol mewn partneriaethau yn parhau i fod yn nodwedd o’r gwaith a wneir yn y Gwasanaethau Oedolion. Mae newidiadau mawr yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i ailstrwythuro. Mae’n hollbwysig monitro’r rhain yn ofalus er mwyn asesu eu heffaith ar y modd y cyflwynir gwasanaethau.