Skip to content

Gwerthuso Perfformiad ar gyfer Dinas a Sir Abertawe 2006

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwerthuso Perfformiad ar gyfer Dinas a Sir Abertawe 2006

Mae’r gwerthusiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan AGGCC a deunydd a gyflwynwyd gan yr awdurdod.
Mae’r awdurdod yn parhau i wneud cynnydd da mewn llawer o feysydd ac
mae’n datblygu rhagor o enghreifftiau o ymarfer da, ond mae rhai heriau
difrifol yn ei wynebu o hyd yn enwedig yn y Gwasanaethau Plant. Un o’r
pryderon sydd angen sylw ar unwaith yw’r cynnydd sy’n parhau yn nifer y
plant sy’n derbyn gofal. Mae’r awdurdod yn ymwybodol iawn o’r broblem hon
ac o’r peryglon os bydd yn parhau i gynyddu. Mae gwaith wedi’i wneud i
ddadansoddi’r broblem ac fe ffurfiwyd strategaeth ‘Buddsoddi i Arbed’. Mae’r awdurdod wedi dechrau gwneud buddsoddiad priodol er mwyn sicrhau’r
cydbwysedd priodol yn y gwasanaethau a darparu gwasanaethau i gefnogi
teuluoedd a gwasanaethau ataliol yn ogystal â gwasanaethau o ansawdd da
ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae’n rhaid i hyn barhau i fod yn flaenoriaeth
gorfforaethol.

Mae cynnydd wedi parhau i ddigwydd mewn perthynas â’r amser a gymerir i
gwblhau asesiadau cychwynnol a chraidd gyda phlant. Er bod perfformiad yr
awdurdod yn mynd i’r cyfeiriad iawn, mae angen i’r gwelliant ddigwydd yn
gyflymach oherwydd mae lefel y perfformiad yn parhau i fod yn wael.
Un peth sy’n atal y perfformiad rhag gwella mewn perthynas â gwasanaethau
i blant yw’r gweithlu, gan fod cyfradd uchel o swyddi gwag. Bydd angen i’r
awdurdod barhau i ganolbwyntio ar hyn er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.
Mae’r holl awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu’r her o ymdopi â
phoblogaeth sy’n heneiddio ac mae’r awdurdod yn gweithio ar sicrhau bod
ganddo’r cydbwysedd iawn o wasanaethau i hyrwyddo annibyniaeth
unigolion. Mae gan yr awdurdod lawer o enghreifftiau o arferion da yn
enwedig mewn perthynas â gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anabledd
dysgu. Mae angen ehangu’r ffordd arloesol hon o feddwl a gwneud yr un peth
ar gyfer grwpiau eraill o gleientiaid. Mae’r awdurdod yn parhau i wneud
cynnydd gydag asesu unedig.