Skip to content

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

Pam cafodd yr Ymchwiliad ei sefydlu? 

Sefydlwyd yr Ymchwiliad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio’n drwyadl i’r Achos o’r haint E.coli 0157 yn Ne Cymru ym mis Medi 2005, i ddarganfod beth ddigwyddodd, ac i wneud argymellion i rwystro hyn rhag digwydd eto.

Beth yw Ymchwiliad Cyhoeddus?

Pwrpas ymchwiliad cyhoeddus yw mynd i wraidd y mater(ion) dan sylw. Mae’n ffordd o chwilio am y ffeithiau mewn modd na fyddai’n bosibl mewn achos gwrthwynebus, tebyg i achos cyfreithiol, lle mae un ochr yn ennill a’r llall yn colli. Nid yw’n gallu penderfynu ar gyfrifoldeb suful neu droseddol.  Mae rhagor o fanylion ar rôl yr Ymchwiliad ar gael yma .

Sut wnaeth yr Ymchwiliad ymgymryd a’I waith?

Yn y Gwrandawiad Rhagarweiniol, a gynhaliwyd ar y 27ain o Fehefin 2006, esboniodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, yr Athro Hugh Pennington, sut y byddai’n cynnal yr Ymchwiliad. Mae trawsysgrifiad llawn o’i ddatganiad ar gael yma . (MS Word 71.9Kb). Ar ddiwrnod y gwrandawiad fe gyhoeddodd yr Ymchwiliad ddogfen yn amlinellu ei weithdrefnau. Mae gwybodaeth am weithdrefnau’r Ymchwiliad ar gael yma . (MS Word 84Kb). Mae adroddiad yr Ymchwiliad hefyd yn esbonio sut yr aeth ati i wneud ei waith.

Beth oedd Cylch Gorchwyl yr Ymchwiliad?

Y Cylch Gorchwyl oedd: 'Cynnal ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at yr Achos E.coli 0157 yn Ne Cymru ym mis Medi 2005 ac i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r Achos; ac ystyried y goblygiadau ar gyfer y dyfodol a gwneud argymhellion yn unol â hynny.'

Pwy oedd yn arwain yr Ymchwiliad?

Cadeirydd yr Ymchwiliad oedd yr Athro Hugh Pennington, microbiolegydd o fri rhyngwladol. Yr Athro Pennington arweiniodd yr adolygiad i’r achos o  E.coli O157 yn yr Alban yn 1996.

Pwy arall oedd yn ymwneud â’r Ymchwiliad?

Fe dderbyniodd yr Ymchwiliad dystiolaeth gan ystod eang o unigolion a sefydliadau. Cafodd rhai unigolion a sefydliadau eu dynodi yn gyfranogwyr craidd i’r Ymchwiliad.   Fel yr awgryma’r teitl roedd y Cadeirydd yn ystyried mai rhain oedd agosaf at y materion dan sylw yn yr Ymchwiliad.

Pwy oedd y Cyfranogwyr Craidd yn yr Ymchwiliad hwn?

Dynododd Cadeirydd yr Ymchwiliad, Yr Athro Hugh Pennington, bod y canlynol yn gyfranogwyr craidd:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Penybont ar Ogwr
  • Bwrdd Iechyd Lleol Penybont ar Ogwr
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili
  • Unigolion a theuluoedd a effeithiwyd gan yr haint
  • Asiantaeth Safonau Bwyd (gan gynnwys y Gwasanaeth Hylendid Cig) 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil
  • Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tydfil
  • Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf
  • Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y Cyfranogwyr Craidd ar gael yma  

Beth yw Gwrandawiadau llafar?

Pwrpas y gwrandawiadau llafar yw i roi cymorth i’r Ymchwiliad mewn meysydd lle nad yw’r ffeithiau’n glir neu lle mae ‘na ddadlau. Fe allan nhw fod o gymorth i roi mwy o wybodaeth am rai materion neu eu gwneud yn fwy eglur, neu fe allan nhw roi cyfle i brofi pa mor gywir neu ddibynadwy yw’r dystiolaeth.

Nid yw’r ffaith na fydd darnau penodol o dystiolaeth yn cael eu drafod yn y gwrandawiadau yn golygu fod y dystiolaeth honno yn amherthnasol neu’n llai pwysig i’r Ymchwiliad. Mae’r Ymchwiliad yn ystyried pob darn o dystiolaeth y mae yn ei dderbyn.

Cynhaliodd yr Ymchwiliad ei Wrandawiad Rhagarweiniol ar 27 Mehefin 2006.  Derbyniodd swm sylweddol o dystiolaeth yn y rhaglen o wrandawiadau cyhoeddus a ddechreuodd ar  12 Chwefror 2008 ac a ddaeth I ben ar 19 Mawrth 2008. Fe wnaeth cyfranogwyr yr Ymchwiliad ddatganiadau cloi mewn gwrandawiad arall ar 14 Mai 2008. Mae copïau o’r datganiadau cloi ar gael yma (pdf 35KB).   Mae trawsgrifiadau llawn o holl drafodion yr Ymchwiliad ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwrandawiadau llafar ar gael yma

A oedd yr Ymchwiliad yn un annibynnol?

Oedd, fe sefydlwyd yr Ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, oedd yn golygu ei fod yn annibynnol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac unrhyw sefydliad neu gorff arall.