Gweithdrefnau a Phrotocolau
Dogfen Gweithdrefnau
Roedd y Ddogfen Gweithdrefnau, a gyhoeddwyd ar ddiwrnod Gwrandawiad Rhagarweiniol yr Ymchwiliad (27 Mehefin 2006) yn disgrifio sut byddai’r Ymchwiliad yn cael ei gynnal. Roedd yn rhoi gwybodaeth am weithdrefnau yn gyffredinol ac ar agweddau penodol gan gynnwys cyfranogwyr, tystiolaeth ysgrifenedig a llafar, cyfrinachedd a chynrychiolaeth gyfreithiol.
Mae copi o ddogfen Weithdrefnau'r Ymchwiliad ar gael yma (MS Word 84Kb)
Protocol Datganiad Tyst
Pwrpas y protocol oedd i sicrhau y byddai datganiadau tyst yn cydymffurfio â safon gyffredin a’u bod yn cael eu cyflwyno i’r Ymchwiliad mewn fformat oedd yn galluogi’r Ymchwiliad i benderfynu yn rhwydd y materion hynny yr oedd y datganiad yn cyfeirio atynt. Roedd angen darllen y Protocol ochr yn ochr â Dogfen Gweithdrefnau’r Ymchwiliad.
Mae copi o Brotocol Datganiad Tystion yr Ymchwiliad ar gael yma (MS Word 43Kb)
Protocol Costau
Colli Cyflog a Threuliau Teithio a Chynhaliaeth :
Arweiniad i Dystion
Arweiniad i Dystion
