Skip to content

Ariannu

Ceiniogau punt
Sut y caiff Llywodraeth Cymru ei hariannu a sut y mae'n penderfynu ar beth y dylid gwario'r arian?

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn ei chyllideb oddi wrth Lywodraeth y DU. Pennir cyllideb Cymru drwy adolygiadau o wariant Llywodraeth y DU, sy’n pennu’r gyllideb ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.  Penderfynir ar addasiadau i gyllideb Cymru drwy Fformiwla Barnett a’u cymhwyso i gyllideb sylfaenol Cymru. Mae’r Fformiwla’n adlewyrchu newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU ac yn eu cymhwyso i gyllidebau cymaradwy yng Nghymru.

Yn dilyn dyfarniad gan Senedd y DU, darperir yr adnoddau ar gyfer Cymru i Swyddfa Cymru. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cadw’r cyllid ar gyfer gweithrediadau Swyddfa Cymru a chaiff y balans ei drosglwyddo i Gymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n dyrannu’r cyllid i Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

O fewn y cyllid a ddyfarnwyd iddi gan Senedd y DU, mae gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn llwyr dros sut y mae’n gwario’r arian. Caiff Cyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol ei chynnig gan Lywodraeth Cymru bob hydref. Bydd Pwyllgorau’r Cynulliad a phartïon eraill â budd wedyn yn craffu ar gynigion gwariant y Llywodraeth ac yn rhoi sylwadau arnynt, cyn eu bod yn cael eu gwneud yn derfynol, a’u cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir newid cynlluniau cyllideb drwy gynnig Cyllideb Atodol a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Er bod rhywfaint o’r arian yn cael ei wario’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn unol â blaenoriaethau Gweinidogol, mae cyfran sylweddol yn cael ei dyrannu i’r cyrff cyhoeddus y mae’n eu noddi a’u hariannu, er enghraifft Llywodraeth Leol, y GIG yng Nghymru a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru.