Skip to content

Cyllidebau

Ceiniogau punt
Mae Cymru’n cael dyraniad cyllideb gan Lywodraeth y DU. Caiff hwn ei bennu gan yr Adolygiad o Wariant ac unrhyw addasiadau dilynol. Gwneir newidiadau i gyllideb Cymru yn unol â Fformiwla Barnett.

Sut mae proses y gyllideb yn gweithio?

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru’n datblygu cynlluniau ar sut i wario ei chyllideb. Bydd Cyllideb Ddrafft sy’n nodi cynlluniau’r Llywodraeth yn cael ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr hydref, a bydd Pwyllgorau’n craffu arni ac yn cynnal dadl arni yn y Cyfarfod Llawn.Yn dilyn hyn bydd y cynlluniau’n cael eu mireinio er mwyn rhoi ystyriaeth i unrhyw newidiadau technegol neu ymatebion yn dilyn y craffu a’u cyflwyno yn y Gyllideb Derfynol, y cynhelir dadl arni yn y Cyfarfod Llawn cyn cael cymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Os bydd angen addasiadau yn ystod y flwyddyn ariannol byddwn yn defnyddio Cyllideb Atodol, sy’n dilyn fformat tebyg a bydd cyfnod o amser ar gyfer craffu.

Mae’r weithdrefn ar gyfer pennu cyllideb Cymru yn cael ei hamlinellu yn y Rheolau Sefydlog, sef y rheolau sy’n rheoli’r ffordd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cael ei rhedeg.

Pa feysydd y mae’r gyllideb yn eu cwmpasu?

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ariannu rhai o’n gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf, gan gynnwys ysbytai, prifysgolion a cholegau, ffyrdd, gwasanaethau tân ac ambiwlans, a’r gwasanaethau niferus a ddarperir gan y cynghorau, megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Cyllideb Cymru’n cael ei threfnu gan Brif Grwpiau Gwariant, sy’n adlewyrchu cyfrifoldebau’r Gweinidogion yn fras. Mae’r Prif Grwpiau Gwariant yn cael eu rhannu ymhellach yn Feysydd a Gweithredoedd Rhaglenni Gwariant. Mae pob lefel o’r gyllideb yn darparu mwy o fanylion ynghylch y defnydd o adnoddau.

Y Prif Grwpiau Gwariant yw:

  • Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant
  • Llywodraeth Leol a Chymunedau
  • Busnes, Menter Technoleg a Gwyddoniaeth
  • Addysg a Sgiliau
  • Yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
  • Tai, Adfywio a Threftadaeth, a
  • Gweinyddu Gwasanaethau Canolog.

Manylion cyswllt

Cewch ragor o fanylion drwy gysylltu â: wag-en@mailuk.custhelp.com