Skip to content

Cyllideb Ddrafft 2013-14 – Cyhoeddwyd fis Hydref 2012

Dolenni perthnasol

Mae hybu twf economaidd, creu swyddi, buddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai a gwarchod buddion cyffredinol yn ganolog i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14, meddai’r Jane Hutt.
Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Wrth gyflwyno’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar gynnig Cyllideb ar gyfer Twf a Swyddi.

Mae’r cynlluniau gwariant a gyhoeddwyd ar 2 Hydref 2012 yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth i wneud popeth o fewn ei gallu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni i hybu twf economaidd a chreu a chynnal swyddi. Mae’n darparu £175m o gyfalaf ychwanegol er mwyn helpu i gyflenwi seilwaith allweddol ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn creu neu’n cynnal dros 3,000 o swyddi dros y ddwy flynedd nesaf.  

Mae cynigion y Gyllideb hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Llywodraeth i warchod a gwella gwasanaethau rheng flaen a gwarchod y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yn y cyfnod anodd hwn.

Mae Cyllideb Ddrafft 2013-14 yn cynnwys:

  • Dogfen y Gyllideb Ddrafft
  • Cynigion y Gyllideb Ddrafft
  • Dyraniadau Prif Grwpiau Gwariant y Gyllideb Ddrafft.

Mae’r daflen, ‘Eich Arian: Cyllideb ar gyfer Twf a Swyddi,’ yn amlygu prif negeseuon y Gyllideb. Taflen atodol sydd wedi’i hanelu at blant a phobl ifanc yw ‘Ein Cyllideb Ddrafft 2013-2014’ ac mae’n cyfleu’r wybodaeth bwysicaf ar ffurf sy’n haws ei deall.

Gallwch lawrlwytho’r holl ddogfennau isod.

Cyfanswm y cyllid sydd wedi’i ddyrannu i Adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 yw £14.8 biliwn.

Manylion cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni yn wag-en@mailuk.custhelp.com