Skip to content

Cyllideb Derfynol 2007-08 – Cyhoeddwyd Rhagfyr 2006

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyfanswm y Terfyn Gwariant Adrannol ar gyfer 2007-08 yw £14 biliwn.

Eleni mae fformat ein Cyllideb wedi newid. Rydym bellach yn defnyddio'r fformat a gafodd ei argymell gan Raglen Cyfrifyddu'r Llywodraeth Gyfan. Ei nod yw gwella systemau rheoli ariannol yn y sector cyhoeddus a rheoli cyllid cyhoeddus o fewn y fframwaith cyllid neu refeniw cyhoeddus.  

Mae ein Cyllideb bellach yn cynnwys

  • Y Cynnig Blynyddol am y Gyllideb; ac
  • Dyraniadau Prif Grwpiau Gwariant y Gyllideb Derfynol.

Mae Tablau'r Gyllideb Derfynol a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr wedi'u tynnu'n ôl. Mae Tablau'r Gyllideb Derfynol y cytunwyd arnynt ar 13 Rhagfyr ar gael bellach.

Cipolwg ar y gyllideb

Cyfanswm y Terfyn Gwariant Ariannol ar gyfer 2007-08 yw £14 biliwn.   Caiff ei rannu rhwng y Prif Grwpiau Gwariant fel a ganlyn:

  • Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - £5.5 biliwn;
  • Llywodraeth Leol - £4 biliwn;
  • Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio - £642 miliwn;
  • Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad  - £346 miliwn; 
  • Menter, Arloesi a Rhwydweithiau - £1.2 biliwn;
  • Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau - £1.7 biliwn;
  • Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon - £134 miliwn;
  • Gweinyddiaeth Ganolog - £335 miliwn;
  • Gwasanaethau Gweinidogol Eraill  - £7 miliwn; ac
  • Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad - £59 miliwn

Manylion cyswllt

Tîm Rheoli Ariannol yn yr Adran Gyllid sy'n gyfrifol am yr wybodaeth hon.

Cewch ragor o fanylion drwy anfon e-bost i: Budget and Strategic Planning@Wales.gsi.gov.uk