Skip to content

Cyllideb Derfynol 2008-09 – Cyhoeddwyd Ionawr 2008

Dolenni perthnasol

‘Cyllideb flaengar ar gyfer Llywodraeth flaengar’ oedd geiriau Andrew Davies heddiw wrth iddo amlinellu cynlluniau gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru am y tair blynedd nesaf.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyfanswm y Terfyn Gwariant Ariannol ar gyfer 2008-09 yw £14.5 biliwn.

Newidiwyd fformat y gyllideb yn 2007. Mae ein Cyllideb bellach yn cynnwys

  • Y Cynigion y Gyllideb Derfynol; ac
  • Dyraniadau Prif Grwpiau Gwariant y Gyllideb Derfynol.

Cipolwg ar y gyllideb

Cyfanswm y Terfyn Gwariant Ariannol ar gyfer 2008-09 yw £14.5 biliwn.   Caiff ei rannu rhwng y Prif Grwpiau Gwariant fel a ganlyn:

  • Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - £5.7 biliwn;
  • Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol - £4.3 biliwn;  
  • Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai - £735 miliwn;
  • Materion Gwledig £147 miliwn;  
  • Yr Economi a Thrafnidiaeth - £1.2 biliwn;
  • Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau - £1.8 biliwn;
  • Treftadaeth - £156 miliwn;
  • Gweinyddiaeth Ganolog - £330 miliwn;
  • Gwasanaethau Gweinidogol Eraill - £10 miliwn;
  • Cronfa Ganolog ar gyfer Cyllid Cyfatebol - £30 miliwn; a
  • Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad - £59 miliwn.

Manylion cyswllt

Tîm Rheoli Ariannol yn yr Adran Gyllid sy'n gyfrifol am yr wybodaeth hon.

Cewch ragor o fanylion drwy anfon e-bost i: Budget and Strategic Planning@Wales.gsi.gov.uk