Skip to content

Diwygiad ariannol

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei thystiolaeth i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, gan ddisgrifio ei gweledigaeth ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol.
Mae Carwyn Jones, y Prif Weinidog, wedi datgelu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol hirdymor Cymru yn y Deyrnas Unedig ddatganoledig.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod angen diwygio’r trefniadau ariannu ar gyfer Cymru.

Rydym wedi cynnal cyfres o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar yr achos dros:

  • ddiwygio’r cyllid datganoledig i Gymru;
  • gallu defnyddio pwerau benthyca er mwyn ariannu buddsoddiad cyfalaf.

Cyhoeddwyd datganiad ar y cyd sydd yn amlinellu hynt y trafodaethau hynny ar 24 Hydref 2012 (cliciwch ar y ddolen ar y chwith).

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, sydd yn cael ei gadeirio gan Paul Silk (‘Comisiwn Silk’). Mae'r Comisiwn yn ystyried y dadleuon dros ddiwygiad ariannol a chyfansoddiadol. Mae gwybodaeth pellach ar gael ar wefan y Comisiwn.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad cyntaf ‘Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru' ar 19 Tachwedd 2012.  Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bellach yn trafod argymhellion y Comisiwn, cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei ymateb i’r adroddiad yng ngwanwyn 2013.