Skip to content

Busnes Cymru

Dolenni perthnasol

Mae busnesau cryf, arloesol a chystadleuol yn hanfodol i economi Cymru.
Os ydych yn ystyried dechrau busnes newydd yng Nghymru neu os oes gennych ddiddordeb mewn ehangu eich busnes presennol, ewch i’n gwefan Cymorth i Fusnesau.

Gallwn ddarparu gwybodaeth a mynediad at wasanaethau cymorth gan ddarparwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Gallwn gynnig cymorth ar bynciau fel:

  • mynediad at wybodaeth ac arbenigedd
  • cyngor cyffredinol ar fusnes
  • gwybodaeth am sut i dendro ar gyfer contractau’r llywodraeth
  • mynediad at wybodaeth am gydraddoldeb ac adnoddau dynol
  • mynediad at wybodaeth am reoli amgylcheddol a gwastraff
  • mynediad at gymorth i fasnachu’n rhyngwladol
  • gweithdai ar ystod eang o bynciau gan gynnwys sefydlu busnes newydd, mynediad at gyllid, masnachu dramor a recriwtio staff

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn ni eich helpu chi, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 0300 060 3000 neu ewch i wefan Busnes Cymru.