Skip to content

Ariannu'r Amgylchedd a Chefn Gwlad

Dolenni perthnasol

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr amgylchedd, datblygu ac adfywio gwledig, ffermio, iechyd anifeiliaid, coedwigaeth, pysgodfeydd a chynhyrchu bwyd.
Defaid
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu nifer o gynlluniau sy’n gwneud lles i’r amgylchedd a chefn gwlad yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, rydym yn darparu:

  • Taliadau i ffermwyr o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, megis y Cynllun Taliad Sengl a'r Rhaglen Tir Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau Tir Cynnal, Tir Gofal a chynllun Tir Mynydd.
  • Y Grantiau Prosesu Bwyd a Marchnata i helpu ffermwyr i arallgyfeirio o amaethyddiaeth graidd i ddiwydiannau eraill.
  • Rhaglenni grant Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Nod y rhain yw helpu ffermwyr i ddatblygu mentrau coetiroedd, y Cynllun Grantiau Coetir a Chynllun Grant Coetiroedd Gwell i Gymru.
  • Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Nod y Gronfa yw darparu ffordd fwy cynaliadwy o fyw trwy ddiogelu a gwella diwylliant, bywyd gwyllt, tirwedd, defnydd tir a’r gymuned.