Skip to content

Ariannu tai a chymunedau

Dolenni perthnasol

Mae tai ac adfywio cymunedol yn ganolog i wella bywydau pobl Cymru, yn arbennig y rheini sy’n dod o’r cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae'r adran hon yn amlinellu'r arian grant sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â thai ac adfywio cymunedol.
Tai
Mae ystod eang o grantiau ar gael i sefydliadau yng Nghymru.

Mae'r rhain yn cynnwys yr awdurdodau lleol, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a'r sector gwirfoddol. Defnyddir y grantiau i wella tai, lleihau digartrefedd, hyrwyddo diogelwch cymunedol ac adfywio ardaloedd o amddifadedd.

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn gallu parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain.
  • Y cynllun ardaloedd Adnewyddu Tai ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn canolbwyntio gweithgareddau a buddsoddi yn yr ardaloedd hynny lle y mae angen cymorth ond cyfuno hynny gyda'r posibilrwydd o adfywio.
  • Grantiau Tai Cymdeithasol a Grantiau Rheoli Tai Cymdeithasol. Mae'r grantiau hyn ar gael ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, megis cymdeithasau tai, i ddarparu tai fforddiadwy newydd i'w rhentu neu eu prynu am bris isel ac er mwyn sicrhau bod tai cymdeithasol Cymru yn cyrraedd safonau uchel iawn o ran eu cyflwr a'r ffordd y cânt eu rheoli.

I gael rhagor o wybodaeth am y grantiau hyn, ewch i'r tudalennau perthnasol ar y wefan.