Skip to content

Arian Rhyngwladol

Dolenni perthnasol

O’r dudalen hon, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith yr ydym yn ei wneud i godi proffil rhyngwladol Cymru, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am fasnach, buddsoddi, twristiaeth a chyllid.
Baner yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi dyfarnu £1.5 biliwn o arian grant Ewropeaidd i Gymru ar gyfer cyfnod rhaglennu 2007-2013.  Ar ôl ystyried yr arian cyfatebol gan amryfal ffynonellau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, mae'r Cronfeydd Strwythurol yn werth dros £3 biliwn i economi Cymru.  

Yn ystod 2007-2013, bydd Cymru yn elwa ar y rhaglenni canlynol o dan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a / neu Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF):

  • Rhaglenni cydgyfeirio ERDF ac ESF yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd;
  • Rhaglenni Cyflogaeth a Chystadleurwydd Rhanbarthol ERDF ac ESF yn Nwyrain Cymru; a
  • Rhaglen Cydweithio Tiriogaethol ERDF rhwng Cymru/Iwerddon

Mae'r rhaglenni newydd hyn yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru.  Byddant yn canolbwyntio ar weithgareddau sy'n cefnogi strategaeth Lisbon ac agenda Gothenburg yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gwella twf economaidd a darparu rhagor o swyddi i Gymru.

Ewch i wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) i gael manylion ar sut i wneud cais am gyllid Ewropeaidd ac i ddarllen y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni'r Cronfeydd Strwythurol.

Ewch i: Gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) (dolen allanol)