Skip to content

Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru

Dolenni perthnasol

Mae cynlluniau uchelgeisiol sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i hybu twf a swyddi wedi’u cyhoeddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau’r gwerth gorau am arian yn ein holl wasanaethau cyhoeddus.
Heddiw, bydd Jane Hutt y Gweinidog Cyllid yn galw ar fusnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i rannu eu barn am yr heriau, y cyfleoedd a’r blaenoriaethau i Gymru o ran seilwaith.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i Hybu Twf a Swyddi er mwyn sicrhau bod ei buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i Gymru.

Mae pŵer gwariant cyfalaf y Llywodraeth yn lleihau'n gyflym - erbyn 2014-15, bydd y Gyllideb gyfalaf dros 40% yn is mewn termau real nag yn 2010-11 a bron i 50% yn is na phan oedd ar ei huchaf yn 2009-10. Golyga hyn fod yn rhaid i ni weithredu nawr, nid yn unig i geisio ffyrdd arloesol o ariannu buddsoddiadau seilwaith ond gan fod yn eglur iawn am ein blaenoriaethau a sicrhau mwy o ddarbodusrwydd ac effeithlonrwydd.

Mae buddsoddi yn seilwaith Cymru dros y degawd nesaf yn hanfodol ac mae’r cynllun yn amlinellu prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith dros y degawd nesaf.

Mae ein cynllun buddsoddi yn y seilwaith yn amlinellu dull newydd o weithio lle rydym:

  • Yn glir am ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith er mwyn hybu’r economi a chynnal swyddi, gan wneud ein trefn yn fwy tryloyw i’n partneriaid cyflawni drwy ddarparu llif manwl o’r prosiectau a gyflwynir dros y tair blynedd nesaf a phennu’r ‘cyfeiriad’ ar gyfer y tymor hir
  • Yn glir am sut y byddwn yn talu am y buddsoddiad yn ein seilwaith drwy ddefnyddio’n hadnoddau presennol yn fwy effeithlon  a chwilio am ddulliau ariannu arloesol a’u rhoi ar waith;
  • Yn glir am ein polisi a’n dull o weithredu sef datblygu a gwireddu cynlluniau sy’n sicrhau’r budd cyhoeddus mwyaf posibl drwy ddefnyddio’r arferion gorau

Y trafodaethau allanol yr ydym wedi’u cynnal hyd yma – a oedd yn hanfodol bwysig wrth lunio fersiwn gyntaf y Cynllun – oedd y man cychwyn mewn proses sy’n parhau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i drafod â rhanddeiliaid, gan fanteisio ar yr arbenigedd a’r wybodaeth i addasu a mireinio ein dull o weithio i’r dyfodol.

Atodiad 1 – Y diweddaraf o ran y llif o brosiectau arfaethedig

Dyma’r fersiwn ddiwygiedig gyntaf o’r llif o brosiectau arfaethedig ers cyhoeddi’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP) ym mis Mai 2012 (ar gael i’w lawrlwytho isod).

Mae’r llif hwn yn darparu mwy o eglurder a sicrwydd i’n partneriaid cyflenwi. Mae’n tynnu sylw at fuddsoddiadau sydd ar y gweill a chyfleoedd caffael posibl, gan roi i’n partneriaid yr hyder i gynllunio i’r dyfodol. Caiff fersiwn wedi’i diweddaru o’r llif hwn ei chyhoeddi bob chwe mis.

Os hoffech gyflwyno sylwadau neu ofyn am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i wiipmailbox@wales.gsi.gov.uk