- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diogelwch yn y cartref I blant
Anafi adau trwy ddamweiniau yw’r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ymysg plant dros un
Cyffredinol:
- Dylid goruchwylio plant bob amser.
- Dylid cadw lloriau’n rhydd o deganau a rhwystrau y gellid baglu drostynt.
- Defnyddiwch harnais sydd wedi’i osod yn ddiogel mewn pram, cadair wthio neu gadair uchel bob amser.
- Peidiwch fyth â gadael babanod ar eu pennau eu hunain ar wynebau uwch.
- Peidiwch â rhoi cadeiriau bowndio (baby-bouncers) ar wynebau uwch.
- Nid argymhellir y defnydd o fframiau cerdded na chadeiriau uchel a gaiff eu gosod ar fyrddau.
- Defnyddio ymylon miniog yn cwmpasu.
Codymau:
- Gosodwch gatiau diogelwch ar ben ac ar waelod y grisiau.
- Dylid cynnal a chadw grisiau’n ofalus.
- Dylid sicrhau bod grisiau wedi’u goleuo’n dda bob amser.
- Gosodwch gloeon ffenestr na all plant eu hagor ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu mynd allan yn rhwydd mewn argyfwng.
- Peidiwch â rhoi unrhyw beth y gellir dringo arno o dan y ffenestr.
- Newidiwch glytiau ar y llawr.
Sgaldiau:
- Peidiwch fyth â gafael mewn diod boeth ac mewn plentyn ar yr un pryd.
- Rhowch ddiodydd poeth allan o gyrraedd plant bob amser.
- Anogwch y defnydd o degell â ffl ecs troellog neu degell heb ffl ecs.
- Cadwch blant bach allan o’r gegin.
- Rhedwch y system dŵr poeth ar 46°C neu gosodwch falf cymysgu thermostatig ar y tapiau.
- Defnyddiwch y platiau poeth yng nghefn y cwcer gyntaf a throi dolennau’r sosbenni oddi wrth du blaen y cwcer.
- Pan fyddwch chi’n rhedeg bath, trowch y dŵr oer ymlaen gyntaf a phrofwch y dŵr bob amser gyda’ch penelin cyn gadael i blentyn fynd i mewn i’r bath neu i’r gawod.
- Peidiwch fyth â gadael plant na babanod yn y bath ar eu pennau eu hunain, ddim hyn yn oed am eiliadau.
- Defnyddiwch gard tân sydd ynghlwm i’r wal ar gyfer pob tân, hyd yn oed y rhai sydd â drysau gwydr.
- Cadwch fatsus a thanwyr o’r golwg ac o’u cyrraedd.
- Cofiwch y gall blant ddringo i mewn i fath sy’n rhedeg heb oruchwyliaeth.
- Er y dylid storio dŵr ar dymheredd sy’n uwch na 60°C i osgoi’r risg o glefyd Legionella, dylech ddefnyddio falf gymysgu thermostatig i sicrhau nad yw’r dŵr sy’n cael ei ddarparu yn boethach na 46°C i osgoi sgaldio.
Gwenwyno:
Mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau gwenwyno’n ymwneud â moddion, nwyddau glanhau’r tŷ a chynnyrch cosmetig, felly:
- Cadwch foddion a chemegau allan o olwg a chyrraedd plant, dan glo mewn cwpwrdd os gellwch chi.
- Pryd bynnag y bo modd, prynwch gynnyrch mewn cynhwysyddion na all plant eu hagor.
- Storiwch gemegau yn eu cynhwysyddion gwreiddiol bob amser.
- Dylech gael gwared o unrhyw foddion a chemegau diangen yn ddiogel.
- Dylech osgoi prynu planhigion a chanddynt ddail neu aeron gwenwynig.
Tagu:
- Dewiswch deganau sy’n briodol i oedran y plentyn gan sicrhau eu bod mewn cyfl wr da.
- Gwnewch yn siŵr y caiff eitemau bach fel marblis, cnau daear a theganau bach eu cadw allan o gyrraedd plant sydd o dan dair oed.
- Gwnewch yn siŵr nad yw eich plentyn yn rhedeg o gwmpas nac yn chwarae tra’n bwyta, a bod prydau bwyd yn cael eu goruchwylio.
- Mae rhai bwydydd yn codi dro ar ôl tro mewn achosion o dagu, a gwell fyddai eu hosgoi yn gyfan gwbl. Gall torri bwydydd yn stribedi bach yn hytrach nag yn ddarnau crynion, helpu i leihau’r risg, a thorri grawnwin a cheirios yn chwarteri.
- Anogwch blant hŷn i gadw eu teganau oddi wrth eu cydchwaraewyr iau.
- Dylid cadw cortynnau tynnu ar lenni a bleindiau yn fyr ac allan o gyrraedd.
- Cadwch anifeiliaid, yn enwedig cathod, allan o’r ystafell wely, a defnyddiwch
rwyd dros y pram.
Diogelwch mewn bath:
Gall plentyn ifanc foddi mewn ychydig gentimedrau o ddŵr, felly:
- Peidiwch fyth â gadael plentyn ifanc ar ei ben ei hun mewn bath, gallai troi eich pen am ychydig eiliadau, hyd yn oed, arwain at broblemau.
- Peidiwch â dibynnu ar frawd neu chwaer hŷn sydd hefyd yn y bath i allu goruchwylio neu gynnal plentyn iau.
- Gwnewch yn siŵr fod popeth y bydd ei angen arnoch wrth law gennych cyn i chi roi eich plentyn yn y bath.
- Peidiwch â chael eich temtio i adael eich plentyn os bydd y ffôn, cloch y drws neu unrhyw beth arall yn ceisio mynnu eich sylw.
- Peidiwch â defnyddio seddau bath gan eu bod yn creu ymdeimlad ffug o ddiogelwch.
Dolenni cysylltiedig allanol
Edrychwch beth allwch chi ei wneud i wella diogelwch yn eich cartref drwy gymryd prawf Cartref Diogel yn Cartref Diogel (Saesneg yn unig)
