Skip to content

Diogelwch yn y cartref I blant

Mam a'i phlant ar y grisiau
Anafi adau trwy ddamweiniau yw’r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ymysg plant dros un 

Cyffredinol:

  • Dylid goruchwylio plant bob amser.
  • Dylid cadw lloriau’n rhydd o deganau a rhwystrau y gellid baglu drostynt.
  • Defnyddiwch harnais sydd wedi’i osod yn ddiogel mewn pram, cadair wthio neu gadair uchel bob amser.
  • Peidiwch fyth â gadael babanod ar eu pennau eu hunain ar wynebau uwch.
  • Peidiwch â rhoi cadeiriau bowndio (baby-bouncers) ar wynebau uwch.
  • Nid argymhellir y defnydd o fframiau cerdded na chadeiriau uchel a gaiff eu gosod ar fyrddau.
  • Defnyddio ymylon miniog yn cwmpasu.

Codymau:

  • Gosodwch gatiau diogelwch ar ben ac ar waelod y grisiau.
  • Dylid cynnal a chadw grisiau’n ofalus.
  • Dylid sicrhau bod grisiau wedi’u goleuo’n dda bob amser.
  • Gosodwch gloeon ffenestr na all plant eu hagor ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu mynd allan yn rhwydd mewn argyfwng.
  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth y gellir dringo arno o dan y ffenestr.
  • Newidiwch glytiau ar y llawr.

Sgaldiau:

  • Peidiwch fyth â gafael mewn diod boeth ac mewn plentyn ar yr un pryd.
  • Rhowch ddiodydd poeth allan o gyrraedd plant bob amser.
  • Anogwch y defnydd o degell â ffl ecs troellog neu degell heb ffl ecs.
  • Cadwch blant bach allan o’r gegin.
  • Rhedwch y system dŵr poeth ar 46°C neu gosodwch falf cymysgu thermostatig ar y tapiau.
  • Defnyddiwch y platiau poeth yng nghefn y cwcer gyntaf a throi dolennau’r sosbenni oddi wrth du blaen y cwcer.
  • Pan fyddwch chi’n rhedeg bath, trowch y dŵr oer ymlaen gyntaf a phrofwch y dŵr bob amser gyda’ch penelin cyn gadael i blentyn fynd i mewn i’r bath neu i’r gawod.
  • Peidiwch fyth â gadael plant na babanod yn y bath ar eu pennau eu hunain, ddim hyn yn oed am eiliadau.
  • Defnyddiwch gard tân sydd ynghlwm i’r wal ar gyfer pob tân, hyd yn oed y rhai sydd â drysau gwydr.
  • Cadwch fatsus a thanwyr o’r golwg ac o’u cyrraedd.
  • Cofiwch y gall blant ddringo i mewn i fath sy’n rhedeg heb oruchwyliaeth.
  • Er y dylid storio dŵr ar dymheredd sy’n uwch na 60°C i osgoi’r risg o glefyd Legionella, dylech ddefnyddio falf gymysgu thermostatig i sicrhau nad yw’r dŵr sy’n cael ei ddarparu yn boethach na 46°C i osgoi sgaldio.

Gwenwyno:

Mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau gwenwyno’n ymwneud â moddion, nwyddau glanhau’r tŷ a chynnyrch cosmetig, felly:

  • Cadwch foddion a chemegau allan o olwg a chyrraedd plant, dan glo mewn cwpwrdd os gellwch chi.
  • Pryd bynnag y bo modd, prynwch gynnyrch mewn cynhwysyddion na all plant eu hagor.
  • Storiwch gemegau yn eu cynhwysyddion gwreiddiol bob amser.
  • Dylech gael gwared o unrhyw foddion a chemegau diangen yn ddiogel.
  • Dylech osgoi prynu planhigion a chanddynt ddail neu aeron gwenwynig.

Tagu:

  • Dewiswch deganau sy’n briodol i oedran y plentyn gan sicrhau eu bod mewn cyfl wr da.
  • Gwnewch yn siŵr y caiff eitemau bach fel marblis, cnau daear a theganau bach eu cadw allan o gyrraedd plant sydd o dan dair oed.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw eich plentyn yn rhedeg o gwmpas nac yn chwarae tra’n bwyta, a bod prydau bwyd yn cael eu goruchwylio.
  • Mae rhai bwydydd yn codi dro ar ôl tro mewn achosion o dagu, a gwell fyddai eu hosgoi yn gyfan gwbl. Gall torri bwydydd yn stribedi bach yn hytrach nag yn ddarnau crynion, helpu i leihau’r risg, a thorri grawnwin a cheirios yn chwarteri.
  • Anogwch blant hŷn i gadw eu teganau oddi wrth eu cydchwaraewyr iau.
  • Dylid cadw cortynnau tynnu ar lenni a bleindiau yn fyr ac allan o gyrraedd.
  • Cadwch anifeiliaid, yn enwedig cathod, allan o’r ystafell wely, a defnyddiwch
    rwyd dros y pram.

Diogelwch mewn bath:

Gall plentyn ifanc foddi mewn ychydig gentimedrau o ddŵr, felly:

  • Peidiwch fyth â gadael plentyn ifanc ar ei ben ei hun mewn bath, gallai troi eich pen am ychydig eiliadau, hyd yn oed, arwain at broblemau.
  • Peidiwch â dibynnu ar frawd neu chwaer hŷn sydd hefyd yn y bath i allu goruchwylio neu gynnal plentyn iau.
  • Gwnewch yn siŵr fod popeth y bydd ei angen arnoch wrth law gennych cyn i chi roi eich plentyn yn y bath.
  • Peidiwch â chael eich temtio i adael eich plentyn os bydd y ffôn, cloch y drws neu unrhyw beth arall yn ceisio mynnu eich sylw.
  • Peidiwch â defnyddio seddau bath gan eu bod yn creu ymdeimlad ffug o ddiogelwch.

Dolenni cysylltiedig allanol

Edrychwch beth allwch chi ei wneud i wella diogelwch yn eich cartref drwy gymryd prawf Cartref Diogel yn Cartref Diogel (Saesneg yn unig)

Child Accident Prevention Trust (Saesneg yn unig)

Plant yng Nghymru