- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diogelwch gyda than gwyllt
Yn 2005 yn ystod cyfnod pedair wythnos a oedd yn cynnwys Noson Tân Gwyllt, anafwyd 990 o bobl gan dân gwyllt yn y DU.
Roedd dwy ran o dair ohonynt yn wrywod a bron i draean ohonynt o dan 16 oed.
Y ffordd fwyaf diogel o wylio tân gwyllt yw mewn arddangosfa dân gwyllt lle gellir eu mwynhau’n ddiogel o bellter. Oedolion yn unig a ddylai ymdrin â’r tân gwyllt mewn arddangosfeydd o’r fath, a bod yn gyfrifol am eu tanio. Hwy hefyd ddylai wneud i ffwrdd yn ddiogel â’r tân gwyllt, ar ôl iddynt gael eu defnyddio.
Caiff tân gwyllt eu defnyddio’n aml mewn gwahanol ddigwyddiadau ac achlysuron crefyddol gydol y fl wyddyn – ond yr un yw’r rheolau bob tro:
- Cynlluniwch eich arddangosfa dân gwyllt i sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn rhoi mwynhad.
- Cadwch y tân gwyllt mewn blwch sydd wedi’i gau, a defnyddiwch hwy un ar y tro.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt unigol, gan ddefnyddio torsh os oes raid.
- Taniwch y tân gwyllt o bellter hyd braich, gan ddefnyddio tapr a sefyll yn ddigon pell yn ôl.
- Cadwch ffl amau noeth, gan gynnwys sigaréts, yn ddigon pell oddi wrth y tân gwyllt.
- Peidiwch fyth â dychwelyd at dân gwyllt, unwaith y bydd wedi’i danio.
- Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich poced a pheidiwch fyth â’u tafl u.
- Cyfeiriwch y tân gwyllt oddi wrth y gwylwyr.
- Peidiwch fyth â defnyddio paraffi n na phetrol ar goelcerth.
- Gwnewch yn siŵr, cyn gadael, fod y tân wedi’i ddiffodd a bod pob man yn ddiogel.
- Cadwch anifeiliaid anwes dan do.
- Gwisgwch bâr o gogls a dillad amddiffynnol pan fyddwch chi’n tanio tân gwyllt.
Ffyn gwreichion:
- Peidiwch fyth â’u rhoi i blant o dan bump oed.
- Gwisgwch fenig bob tro i afael mewn ffyn gwreichion.
- Dylai plant ddal y ffon wreichion hyd braich oddi wrthynt tra bo oedolyn yn ei thanio.
- Peidiwch fyth â’i chwifi o wrth ymyl rhywun arall oherwydd y gallech eu llosgi.
- Peidiwch fyth â gafael mewn baban yn eich breichiau pan fyddwch chi’n gafael mewn ffon wreichion.
- Pan fydd y ffon wreichion wedi gorffen gwreichioni, rhowch hi mewn bwced o
ddŵr oer ar unwaith a’i gadael yno.
Dolenni cysylltiedig allanol
Department for Business, Enterprise and Regulatory Reform - www.berr.gov.uk/fireworks/games.htm (Saesneg yn unig)
UK Firework safety - www.fireworksafety.co.uk (Saesneg yn unig)
Safer fireworks - www.saferfireworks.com (Saesneg yn unig)
