- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diogelwch yn y cartref I bobl hŷn
Mae pobl hŷn yn un o’r grwpiau sydd fwyaf agored i gael damweiniau, yn enwedig y tu mewn a’r tu allan i’w cartrefi.
Codymau:
- Peidiwch â gadael pethau ar y grisiau.
- Gwnewch yn siŵr fod y cartref yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda, yn enwedig y
grisiau a’r lloriau. - Dylech osgoi carpedi rhy batrymog a allai ystumio canfyddiad y rhai sydd â nam ar eu golwg.
- Amlygwch ymylon allanol stepiau trwy ddefnyddio paent gwyn gwrthlithro.
- Dylai’r cartref fod wedi’i oleuo’n dda gyda switsys golau dwy-ffordd ar y grisiau.
- Rhowch olau wrth ochr y gwely, sy’n hawdd i’w droi ymlaen yn y tywyllwch.
- Rhowch gawell o amgylch y bocs llythyrau fel nad oes yn rhaid gwyro i godi llythyrau.
- Dylech osgoi ceblau ar hyd y lloriau a llanast.
- Defnyddiwch stepiau yn lle sefyll ar gadair.
- Defnyddiwch esgidiau a sliperi sy’n ffi tio’n dda, ac osgoi sodlau uchel.
Sgaldiadau
Mae pobl hŷn bedair neu bum gwaith yn fwy tebygol o farw o losgiadau a sgaldiadau na’r boblogaeth yn gyffredinol. Prif ffynonellau gwres yw rheiddiaduron, tanau trydan a chwceri. Gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- Defnyddio tegell â ffl ecs troellog neu degell heb ffl ecs.
- Defnyddio tegelli jwg neu degell sy’n llenwi trwy’r pig.
- Berwi’r dŵr sy’n angenrheidiol yn unig, a dim mwy.
- Peidio â cheisio cario hylifau poeth yn bellach nag sydd raid.
- Dylai dŵr o dap y bath fod yn ddim poethach na 46°C.
- Gosodwch falf cymysgu thermostatig.
- Wrth redeg bath, trowch y dŵr oer ymlaen yn gyntaf.
- Defnyddiwch y platiau poeth sydd ar gefn eich cwcer i ddechrau.
- Trowch ddolennau’r sosbenni oddi wrth du blaen y cwcer.
- Gwnewch yn siŵr nad oes ôl traul ar boteli dŵr poeth.
Gwenwyno:
- Gwnewch yn siŵr fod arbenigwr yn edrych ar y dyfeisiau llosgi-tanwydd yn rheolaidd, oherwydd fod carbon monocsid yn gallu lladd.
- Gwnewch yn siŵr fod peiriannydd gwresogi sydd wedi’i gofrestru â Corgi yn
gwasanaethu’r peiriannau nwy yn fl ynyddol. - Dylech lanhau simneiau a ffl iwau unwaith y fl wyddyn.
- Os yw ffl am nwy sydd fel arfer yn troi’n las yn troi’n oren, gallai hynny olygu fod carbon monocsid yn cronni.
- Peidiwch â chymryd dosau mwy o gyffuriau nag sydd ar eich presgripsiwn.
Dolenni cysylltiedig allanol
Edrychwch beth allwch chi ei wneud i wella diogelwch yn eich cartref drwy gymryd prawf Cartref Diogel yn Cartref Diogel (Saesneg yn unig)
