- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Cadwch yn oer yn yr haf
Dolenni perthnasol
Mae gwres eithafol yn beryglus i bawb – fell cadwch yn oer!
Pan fo’r tymheredd yn parhau’n anarferol o uchel o ddydd i ddydd yn ystod tywydd poeth, gall wneud pobl yn sâl, ac i bobl sy’n dioddef o rai cyflyrau gallai fod yn angheuol.
Amddiffynnwch eich hun rhag gwres llethol
Cadwch allan o’r gwres:
- Cadwch allan o’r haul rhwng 11.00am a 3.00pm.
- Peidiwch â gwneud gormod o weithgarwch corfforol egnïol.
- Gwisgwch ddillad cotwm, ysgafn a llac.
- Os oes rhaid i chi fynd allan yn y gwres: ceisiwch gerdded yn y cysgod, defnyddiwch eli haul a gwisgwch het a sgarff ysgafn.
Cadwch eich gwres i lawr:
- Yfwch ddigon o ddiodydd oer, ond ceisiwch osgoi caffîn ac alcohol.
- Bwytewch fwydydd oer, yn enwedig salad a ffrwythau sy’n cynnwys llawer o ddŵr.
- Cymerwch gawod, fath oer, neu golchwch y corff cyfan mewn dŵr oer.
- Chwistrellwch ddŵr dros eich croen neu’ch dillad, neu rhowch gadach gwlyb dros gefn eich gwddf.
Cadwch bob man o’ch cwmpas yn oer:
- Cadwch y ffenestri a’r llenni sy’n wynebu’r haul ynghau yn ystod y dydd, ac agorwch y ffenestri yn y nos pan fo’r tymheredd wedi disgyn.
- Ystyriwch osod caeadau allanol dros y ffenestri.
- Insiwleiddiwch y daflod a’r waliau ceudod - maen nhw’n cadw’r gwres allan hefyd!
- Defnyddiwch baent golau, adlewyrchol ar waliau allanol.
- Diffoddwch oleuadau ac offer trydanol pan nad oes eu hangen – gan eu bod yn cynhyrchu gwres.
- Plannwch goed a phlanhigion deiliog i roi cysgod o flaen ffenestri.
- Cadwch blanhigion a bowlenni o ddŵr yn y tŷ gan fod anweddu’n helpu i oeri’r aer.
- Os yw’n bosib, symudwch i ystafell oerach, yn enwedig er mwyn cysgu.
Cadwch lygad ar eraill:
- Cadwch lygad ar bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain, yr henoed, pobl sâl neu ifanc iawn, a gwnewch yn siŵr eu bod yn cadw’n gyffyrddus o oer.
- Peidiwch â gadael babanod, plant neu bobl hŷn mewn ceir yn eu hunfan.
- Cadwch lygad ar gymdogion, teulu a chyfeillion sy’n sâl neu’n oedrannus bob dydd yn ystod cyfnod o dywydd poeth.
- Byddwch yn wyliadwrus a galwch am y meddyg neu’r gwasanaethau cymdeithasol os oes rhywun yn anhwylus neu os oes angen rhagor o help arnynt.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phoethdonnau ewch at y cynllun poethdon ar gyfer Cymru 2009 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (dolen allanol)
