Skip to content

Diogelwch I ddefnyddwyr y ffyrdd a gyrwyr

Menyw oedrannus yn eistedd
Yn 2005, lladdwyd 180 o bobl ar ffyrdd yng Nghymru, cafodd 1146 o bobl anafi adau difrifol a chafodd 1147 o bobl fân-anafi adau.

Mae camgymeriad dynol yn elfen o bron i bob damwain sy’n digwydd, felly felly peidiwch â thanbrisio’r risg o gael damwain a pheidiwch â gorbrisio eich galluoedd.

Peidiwch â gyrru’n gyfl ym na gyrru’n fyrbwyll, a cheisiwch ragweld y camgymeriadau a wna defnyddwyr eraill y ffyrdd.

Edrychwch allan am feicwyr, beicwyr modur a cherddwyr. Mae pob un o’r rhain yn fwy agored i niwed na cheir.

Dylech ganolbwyntio ar y ffordd bob amser yn hytrach nag ar ‘ochr fewnol’ y car.

Dylech ystyried cyfyngiadau eich cerbyd a sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw a’i wasanaethu’n rheolaidd.

Caniatewch fwy o amser ar gyfer stopio pan fo amodau gyrru yn wael a chymerwch hoe yn rheolaidd ar deithiau hir rhag i chi orfl ino.

Cyn gyrru, peidiwch â chymryd diod na chyffuriau a fydd yn effeithio ar eich gallu i yrru a chofi wch ei bod yn anghyfreithlon i ddefnyddio ffôn symudol yr ydych yn ei dal yn eich llaw pan fyddwch chi’n gyrru.

Byddem yn argymell eich bod yn mynychu cwrs gyrru ar lefel uwch.

Dolenni cysylltiedig allanol

Road safety Wales - www.roadsafetywales.co.uk/cymraeg/index.htm

THINK - www.dft.gov.uk/think (Saesneg yn unig)