- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diogelwch yn yr haul
Mae diogelwch yn yr haul yn hanfodol i fabanod a phlant.
Tuedda plant i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored nag y gwna oedolion. Mae ganddynt groen sensitif iawn sy’n llosgi’n rhwydd, felly mae angen iddynt gael eu hamddiffyn yn ofalus, boed hynny gartref neu dramor.
Y peth olaf ar feddwl plentyn pan fo’r haul yn disgleirio a phan maent eisiau chwarae, yw rhoi eli haul dros eu croen – felly lle’u rhieni a’u gofalwyr yw bod yn gyfrifol am hynny.
Mae dau fath o belydryn haul sy’n gallu achosi niwed – UVA ac UVB, a’r pelydrau hyn sy’n gallu achosi niwed i’n crwyn ar ffurf llosg haul, heneiddio a phroblemaueraill. Maent hefyd yn cynyddu’r risg o gael canser y croen.
Sut i gadw plant yn ddiogel yn yr haul:
- Cadwch blant o dan chwe mis oed allan o lygad yr haul bob amser. Mae uwchfi oled (UV) gryfaf pan nad oes cymylau yn yr awyr, hyn yn oed os yw’r tymheredd yn isel neu os oes awel oer.
- Cadwch eich plentyn yn y cysgod, ond cofi wch ei bod yn bosibl cael llosg haul dan gymylau ysgafn.
- Dylech osgoi mynd i’r haul pan fo ar ei boethaf (rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn).
- Defnyddiwch eli haul ffactor uchel bob amser – o leiaf SPF 15 ac ailrowch yr eli yn rheolaidd ac ar ôl bod yn nofi o. Dylai bob plentyn, pa dywyll bynnag fo lliw eu croen, warchod eu croen rhag yr haul.
- Gorchuddiwch eich plentyn yn iawn gyda chrys-T neu ddillad cotwm llac a het haul.
- Gwnewch yn siŵr fod hetiau haul a chapiau â phig yn gorchuddio cefn y gwddf.
- Mae sbectol haul yn warchodaeth werthfawr rhag cael eich amlygu’n ormodol i UV sy’n adlewyrchu oddi ar ddŵr.
- Gwnewch yn siŵr fod plant yn cael diodydd cyson, ddŵr os yn bosibl, os ydynt yn chwarae yn yr haul, rhag iddynt ddioddef o ddiffyg hylif.
- Gall siwtiau haul un darn fod yn syniad da gan eu bod yn cynnig gwarchodaeth dda i ysgwyddau ac i goesau.
Dolenni cysylltiedig allanol
Herio’r Haul - www.cancerresearchuk.org/sunsmart/(Saesneg yn unig)
