- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diogelwch mewn dŵr
Mae miloedd o bobl yn mwynhau treulio amser ar draethau o amgylch Cymru bob blwyddyn. Ond gydag 20 y cant o’r achosion o foddi yn digwydd yn nyfroedd yr arfordir, bydd bod yn ymwybodol o’r peryglon a gallu adnabod peryglon posibl yn sicrhau y cewch ymweliad hapus â’r traeth ac na fydd yn troi i fod yn drasiedi.
Pan fyddwch chi’n ymweld â’r traeth, yn enwedig os oes gennych chi blant gyda chi, ystyriwch y canlynol:
- Sylwch a oes achubwyr ar gael.
- A yw’r llanw i mewn ynteu allan.
- A oes creigiau, pierau, grwynau neu forgloddiau a allai amharu ar badlo ac ymdrochi.
- A yw’r traeth yn brysur.
- A oes chwaraeon dŵr yno, a yw’r rhain yn digwydd mewn parthau penodol.
- Beth yw cyfl wr y môr, a yw’r traeth yn serth.
- Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddiwch siaced fywyd neu offer arnofio sydd wedi eu ffitio’n iawn; yn enwedig wrth fynd ar gwch neu unrhyw fath o long hamdden.
Ceisiwch ddewis traeth sy’n cynnig gwasanaeth achubwyr a nofi wch lle mae’r patrôl yn gweithio, o fewn yr ardal â baneri coch/melyn.
Chwiliwch am wybodaeth diogelwch a allai gynnwys arwyddion o rybudd a dysgwch beth mae’r faner yn ei olygu:
Coch a Melyn – achubwyr yn patrolio, mae dwy faner ar ymyl y dŵr yn dangos ffi niau’r ardal a gaiff ei phatrolio.
Coch – mae’n beryglus nofi o neu ymdrochi.
Du a gwyn – ardal wedi’i phennu ar gyfer chwaraeon dŵr.
- Ewch gyda’ch gilydd – peidiwch â nofi o ar eich pen eich hun.
- Dylai plant fynd gydag oedolyn bob amser.
- Dylech wybod lle mae pawb.
- Goruchwyliaeth gyson yw’r unig ffordd wirioneddol o sicrhau diogelwch eich plentyn.
Dysgwch sut i helpu - Galwch am help a dywedwch wrth achubwr os oes problem, neu ewch at y ffôn agosaf, deialwch 999 a gofyn am wylwyr y glannau.
Peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i achub neb.
Dolenni cysylltiedig allanol
Royal National Lifeboat Institution (RNLI) - www.rnli.org.uk (Saesneg yn unig)
Sea Smart: www.mcga.gov.uk/seasmart (Saesneg yn unig)
Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol: www.nationalwatersafety.org.uk (Saesneg yn unig)
Y Gymdeithas Frenhinol dros Achub Bywydau: www.lifesavers.org.uk (Saesneg yn unig)
