- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Yfed yn gyfrifol
Gall goryfed fod yn beryglus – gall hyd yn oed eich lladd.
Os ydych yn cael anhawster rheoli neu gyfyngu ar eich yfed, rhowch gynnig ar y cyngor isod, sef gair i gall ynghylch yfed yn gyfrifol.
Sut y gallaf yfed yn gyfrifol?
- Cyn i chi fynd allan, penderfynwch a ydych yn mynd i yfed ai peidio. Os ydych, penderfynwch ar nifer y diodydd a’r math o alcohol yr ydych yn mynd i’w hyfed. Sicrhewch fod eich targed yn un synhwyrol a glynwch wrtho.
- Peidiwch ag yfed heb fwyta. Os bwytewch rywbeth cyn i chi ddechrau yfed, bydd yn helpu’ch corff i amsugno’r alcohol yn arafach.
- Cadwch lygad barcud ar eich diod a sicrhau nad oes neb yn rhoi rhywbeth ynddi.
- Yfwch yn bwyllog - peidiwch â chael mwy nag un ddiod yr awr. Ceisiwch yfed diodydd di-alcohol megis dŵr, soda neu sudd rhyngddynt.
- Glynwch wrth y cyfyngiadau dyddiol a argymhellir.
- Peidiwch â chymysgu diodydd, yfed diodydd dwbl neu chwarae gemau yfed. Mae’n bosibl y byddwch yn yfed mwy nag yr ydych yn ei sylweddoli.
- Ceisiwch beidio â meddwi na cholli rheolaeth, gan y gallai hyn greu problemau a helynt i chi.
- Peidiwch byth â gyrru ar ôl yfed.
Rwy’n ei chael hi’n anodd lleihau’r maint yr wyf yn ei yfed, beth y dylwn i ei wneud?
- Lleihau’r gweithgareddau cymdeithasol sy’n cynnwys yfed a rhoi cynnig ar y rheini nad yw yfed yn rhan ohonynt.
- Lleihau faint o weithiau’r wythnos yr ydych yn mynd allan am ddiod.
- Mynd i’r dafarn neu’r clwb yn hwyrach yn y nos er mwyn rhoi llai o amser i chi yfed.
- Peidiwch â gadael i neb bwyso arnoch i yfed mwy nag yr ydych am ei wneud.
