- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Cyffuriau
Mae bod yn gaeth i gyffur yn golygu ei fod yn ganolog i'ch bywyd a'ch bod yn ddibynnol arno.
Gall camddefnyddio cyffur arwain at ddibyniaeth gorfforol (bydd eich corff yn adweithio wrth fod hebddo) neu ddibyniaeth feddyliol (rydych yn ei gymryd i deimlo'n dda). Dyma arwyddion o gamddefnyddio cyffuriau neu fod yn gaeth i gyffuriau:
- Cynyddu'r ddôs trwy'r amser er mwyn cael yr un effaith.
- Teimlo'ch bod yn ddibynnol ar gyffur, neu ofn rhoi'r gorau iddo.
- Adwaith corfforol am gyfnod byr wedi ichi fod hebddo.
- Mae'ch hwyliau'n troi'n sydyn.
- Agwedd negyddol neu wahanol at fywyd.
- Colli awydd gwneud dim.
- Safon eich gwaith yn eich swydd neu'r ysgol yn gwaethygu.
- Problemau â pherthnasau a ffrindiau.
- Yn cael benthyg neu'n dwyn arian oddi wrth berthnasau a ffrindiau.
- Cadw cyfrinachau am eich bywyd.
Cyn gynted ag y teimlwch fod gennych broblem gyffuriau, ewch i weld eich doctor. Gall roi cyngor a help i chi a threfnu apwyntiad ag arbenigwr.
Dolenni cysylltiedig allanol
DAN 24/7 (Llinell gymorth Cymru ar gyffuriau ac alcohol)
FRANK (Saesneg yn unig)
Samaritans (Saesneg yn unig)
Prism (Saesneg yn unig)
Drugscope (Saesneg yn unig)
