Skip to content

Camddefnyddio Sylweddau Anweddol (VSA)

Tri taniwr nwy biwtan
Mae Camddefnyddio Sylweddau Anweddol - neu ‘arogli’ - yn cyfeirio at y weithred o anadlu yn fwriadol gemegau sydd mewn cynhyrchion bob dydd.

Mae’r eitemau’n cynnwys chwistrell gwallt, diaroglydd, a thanwyr sigaréts.

Mae Camddefnyddio Sylweddau Anweddol - neu ‘arogli’ - yn cyfeirio at y weithred o anadlu yn fwriadol cemegion sydd mewn cynhyrchion pob dydd fel chwistrell wallt, diaroglydd, a thanwyr sigaréts er mwyn cael ‘high’.

Ar gyfartaledd ym mhob cartref mae rhwng 30 a 50 o gynhyrchion y gellid eu camddefnyddio. Mae hyn yn golygu ei bod yn haws cael gafael ar Sylweddau Anweddol nag ar gyffuriau anghyfreithlon.

Mae mwy o bobl yn marw o  Gamddefnyddio Sylweddau Anweddol nag o ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Mae’n lladd mwy o bobl ifanc rhwng 10 a 16 oed na’r holl ystod o gyffuriau anghyfreithlon sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn gydradd â thua un person yr wythnos.

Mae VSA yn gyffur rhithbair cyflym a chryf. Mae pobl ifanc yn wynebu risg o farw yn sgil cael eu gwenwyno neu o gael eu hanafu’n ddifrifol ar ôl camddefnyddio sylweddau anweddol. Ymhlith y troseddau y mae pobl ifanc yn eu cyflawni o dan ddylanwad y sylweddau hyn mae llofruddiaeth, trais, ymosodiadau, lladrata a fandaliaeth.

Mae 77% o’r achosion o gamddefnyddio sylweddau anweddol yn digwydd yn y cartref ynghyd â 55% o’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â VSA. Dylai rieni gadw llygad ar ymddygiad eu plant a sicrhau ei bod mor anodd â phosibl iddynt gael gafael ar y sylweddau hyn. Yn arbennig, mae 80% o farwolaethau VSA yn gysylltiedig ag ail-lenwadau tanwyr biwtan.

Ymhlith arwyddion posibl VSA mae:

  • Ymddygiad meddw fel diffyg cydsymudiad a diffyg eglurder wrth siarad
  • Aroglau cemegol ar ddillad, gwallt neu anadl
  • Canhwyllau llygad lledagored
  • Croen gwelw
  • Llygaid coch, chwyddedig a llaith
  • Trwyn sy’n rhedeg yn barhaus
  • Brech neu smotiau o gwmpas y trwyn a’r geg
  • Pesychu neu dagu
  • Cyfog a chwydu
  • Pen tost

Dyma rai enghreifftiau o sylweddau peryglus:

  • Ail-lenwadau biwtan ar gyfer tanwyr sigaréts
  • Nwy domestig hylifedig
  • Gludiau sy’n seiliedig ar doddyddion
  • Diaroglyddion erosol, chwistrellau gwallt, peraroglyddion
  • Chwistrellau lliniaru poen
  • Rhai hylifau i gywiro camgymeriadau teipio
  • Petrol a phetrol i danwyr
  • Rhai mathau o baent, teneuwyr a thynwyr paent
  • Hylifau sychlanhau
  • Lliw ewinedd a thoddwyr farnis ewinedd
  • Rhai mathau o gwyr glanhau esgidiau neu fetal
  • Tynnwr plaster

Dolenni cysylltiedig allanol

DAN 24/7 (Llinell gymorth Cymru ar gyffuriau ac alcohol)
FRANK (Saesneg yn unig)
Re-Solv (Saesneg yn unig)
Solve It (Saesneg yn unig)
British Aerosol Manufacturers' Association (Saesneg yn unig)