Skip to content

5 y dydd

Dolenni perthnasol

Mae bwyta mwy o ffrwythau a llysiau yn bwysig i ni gyd, ond faint ohonom sy'n llwyddo i fwyta 5 y dydd?
Byrbrydau
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod bwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau'r dydd yn bwysig i’n hiechyd.

Ond efallai y byddech yn synnu clywed mor hawdd y gall fod. A does dim angen newid eich deiet yn sylfaenol na gwneud heb y pethau rydych yn eu hoffi. Dim ond ychwanegu cyfran o lysiau yma, dogn o ffrwythau acw - a byddwch yn cyrraedd eich targed o 5 y dydd cyn sylweddoli hynny!

Bwytewch ffrwythau a llysiau i frecwast, cinio a swper

Un i frecwast - Beth am gael ffrwythau gyda’ch grawnfwyd, uwd neu iogwrt braster isel - mae banana wedi’i thafellu neu lond llaw o aeron yn blasu’n dda. Darllenwch ein ryseitiau iachus i frecwast.

Un i ginio - Rhowch lysiau yn eich brechdanau fel ciwcymbr, moron wedi gratio neu domato, a bwytewch ffrwyth neu ddau. Rhowch gynnig ar un o'n ryseitiau blasus i ginio.

Un i'w ddadrewi - Mae ffrwythau a llysiau wedi rhewi yn cyfri.  Munud neu ddwy mae'n ei gymryd i roi ychydig o bys yn y meicrodon ar gyfer eich omled.

Un i'w agor - Mae ffrwythau a llysiau tun yn cyfri hefyd. Dewiswch ffrwythau tun mewn sudd a llysiau mewn dŵr.
Un i'w wasgaru. Beth am wasgaru pupur, nionod, madarch, india-corn neu ddarnau o bîn-afal ar bizza crwst tenau. Rhowch gynnig ar wneud ein Pizza Pedwar Tymor blasus.

Un mewn pylsiau - Ychwanegwch ffa, corbys a phylsiau i'ch stiwiau, prydau pob a saladau - ond cofiwch mai dim ond 1 o'ch 5 y dydd all ddod o bylsiau.

Un ar ochr eich plât - Bwytewch salad neu lysiau gyda'ch prif bryd. Os ydych chi'n cael cinio rhost gwnewch yn siŵr fod gennych foron neu frocoli ar eich plât.

Un i'w ychwanegu - Un ffordd hawdd o gael eich 5 y dydd yw ychwanegu llysiau tun, llysiau wedi'u rhewi neu lysiau ffres at eich prydau i'w gwneud yn fwy blasus:

  • Rhowch ddarnau mân o foron mewn spaghetti bolognaise
  • Rhowch bupur coch mewn saws pasta
  • Rhowch bys yn eich tatws stwnsh
  • Ychwanegwch ffrwythau a llysiau at eich snacs.

Un i'w ddipio - Dipiwch lysiau mewn saws braster isel, caws meddal braster isel neu salsa - mae ffyn ciwcymbr, pupur, moron neu hyd yn oed blodfresych yn flasus iawn.

Un i'w yfed - Mae un gwydraid 150ml o sudd ffrwythau 100% heb siwgr neu sudd llysiau yn cyfri fel un dogn (ond cofiwch un gwydraid yn unig sy'n cyfri.)

Faint yw dogn o ffrwythau neu lysiau?

Mae un dogn o ffrwythau (80 gram) bron gymaint â:

  • tafell neu hanner ffrwyth mawr ee tafell o felon neu hanner grawnffrwyth;
  • 1 ffrwyth canolig ee afal;
  • 2 ffrwyth bach ee 2 eirinen neu satsuma.

Mae un dogn o ffrwythau sych (30 gram) bron gymaint â:

  • llond llwy fwrdd o ffrwythau sych.

Mae un dogn o lysiau (80 gram) bron gymaint â:

  • 3 llond llwy fwrdd o bys, ffa neu bylsiau;
  • 2 goes brocoli;
  • llond dysgl bwdin o salad.

Gwnewch Newid am Oes a chewch daflen reolaidd sy'n llawn cynghorion gwych i'ch helpu chi fwyta'n well a symud mwy!  

Ymunwch â Newid am Oes