Skip to content

Deall y canllawiau risg-is

Dolenni perthnasol

Torrwch i lawr ar y calorïau mewn diodydd heb orfod dweud ‘na’.
Dyn
Y newyddion da yw nad oes unrhyw angen i roi'r gorau i yfed alcohol yn gyfan gwbl.

Y newyddion da yw nad oes angen rhoi’r gorau i yfed alcohol yn gyfan gwbl. Ond os wyt ti’n dewis yfed, gofala dy fod yn cadw at y canllawiau isod.

Canllawiau risg-is

Menywod: ni ddylent yfed mwy na 2 i 3 uned o alcohol y dydd yn rheolaidd*, sef un gwydraid safonol 175ml o win (ABV 13%).

Dynion: ni ddylent yfed mwy na 3 i 4 uned o alcohol y dydd yn rheolaidd*, sef un peint o lager, cwrw neu seidr cryf (ABV 6.0%)

*Mae 'rheolaidd' yn golygu yfed hyn bron bob dydd neu ar bob dydd o’r wythnos. ABV yw’r canran o alcohol yn y ddiod.

Ni allwn ddweud bod yfed alcohol yn hollol ddiogel, ond os cedwi di at y canllawiau hyn, bydd y risg o achosi niwed iti’n isel.

Cyfri’r unedau

Gall gyfri’r hyn rwyt fel rheol yn ei yfed helpu os oes angen iti yfed llai. Defnyddia’r Alcoholiadur i weld faint rwyt yn ei yfed

Dyw unedau ddim yn cronni pwyntiau i ennill gwobrau

Ni elli eu cronni er mwyn cael noson fawr allan. Mae yfed llawer o alcohol mewn un sesiwn yn gwneud mwy o niwed i’r corff.

Rhybudd Meddygol: Cyn iti gael diod gynta’r dydd, os yw’r corff yn adweithio ac yn dioddef o symptomau fel ysgwyd, yn chwysu neu dy fod ar bigau drain, dylet gymryd cyngor meddygol cyn rhoi’r gorau i alcohol yn gyfangwbl – gan ei bod yn beryglus gwneud hyn yn rhy sydyn heb gael y cyngor a’r cymorth iawn.