Skip to content

Cyfnewid maint eich prydau

Dolenni perthnasol

Mae bwyta mwy o ffrwythau a llysiau yn bwysig i ni gyd, ond faint ohonom sy'n llwyddo i fwyta 5 y dydd?
Ffrwythau a llysiau cymysg
Mae llawer ohonom wedi’n magu i feddwl y dylen ni glirio popeth ar ein plât, ond fwy na thebyg mae hwnnw'n fwy nag sydd ei angen arnon ni.

Y broblem y dyddiau hyn yw bod prydau o faint mawr yn gyffredin. Rydyn ni'n aml yn bwyta gormod o egni ond heb ei losgi, a hynny heb hyd yn oed sylweddoli hynny.

Does dim rhaid i chi roi'r gorau i bopeth rydych yn ei hoffi - dechreuwch drwy gyfnewid ambell beth! Rhowch gynnig ar yr awgrymiadau hyn i osgoi bwyta gormod o galorïau - bydd cadw at y newidiadau syml hyn yn help i chi gyrraedd pwysau iach.

Cyfnewid wrth fwyta

Cyfnewid plât

Os byddwch yn newid plât mwy am blât llai, bydd gennych swm llai o fwyd. (A bydd hefyd yn edrych fel pe bai gennych fwy ar eich plât).

Bwytewch fwy o ffrwythau a llysiau

Gwnewch yn siŵr fod eich deiet yn llawn ffrwythau a llysiau yn lle bwyd sy'n uchel mewn braster neu siwgr. Anelwch at lenwi trydydd eich plât gyda llysiau. Neu newidiwch 1 pryd mawr am bryd llai, a bwytewch ffrwythau i bwdin.

Bwytewch yn arafach

Mae'n cymryd amser i'n hymennydd sylweddoli ein bod ni'n llawn, felly ceisiwch fwyta'n arafach. Os ydych yn bwyta gyda ffrindiau neu deulu, ceisiwch fwyta ar yr un cyflymdra â'r un sydd yn bwyta arafaf.

Rhannwch fwydydd sydd wedi'u pacio

Mae nifer o fwydydd a diodydd wedi'u pecynnu ar gyfer eu rhannu, felly os ydych yn bwyta ar eich pen eich hun, ceisiwch osgoi temtasiwn gan arbed ychydig ar gyfer y tro nesaf. Rhowch snaciau mewn dysgl a rhowch y gweddill i gadw.  Rydych wedyn yn fwy tebygol o fwyta llai.

Canolbwyntiwch ar eich bwyd

Mae bwyta'n ddifeddwl ee o flaen y teledu, yn golygu ein bod yn bwyta mwy heb i ni sylweddoli hynny, na mwynhau'n bwyd. Newidiwch y teledu am y bwrdd.

Bod yn fodlon yw'r nod, nid bod yn llawn dop

Wrth archebu tecawê, gofynnwch am y maint lleiaf, nid y maint mwyaf - gwnewch yr un peth gyda phrydau parod. Pan fyddwch gartref, ceisiwch beidio â bwyta mwy nag un llond plât, a pheidiwch ag ail-lenwi'ch plât.

Cyfnewid yn yr archfarchnad – sut i ddarllen labeli

Cymharwch y calorïau

Wrth siopa am fwyd, darllenwch yr wybodaeth ar y labeli maeth i gymharu bwydydd tebyg (brechdanau, bwydydd wedi'u pacio a bwydydd parod) a dewiswch y rhai sydd â llai o galorïau.

Braster, siwgr, halen - uchel neu isel?
  • Mewn bwyd braster uchel mae dros 20 gram o fraster ym mhob 100 gram.
  • Mewn bwyd braster isel mae 3 gram neu lai o fraster ym mhob 100 gram.
  • Mewn bwyd sy'n uchel mewn siwgr mae dros 15 gram o siwgr ym mhob 100 gram.  
  • Mewn bwyd sy'n isel mewn siwgr mae 5 gram neu lai o siwgr ym mhob 100 gram.  
  • Mewn bwyd sy'n uchel mewn halen mae dros 1.5 gram o halen ym mhob 100 gram.
  • Mewn bwyd sy'n isel mewn halen mae 0.3 gram neu lai o halen ym mhob 100 gram.  

Ffordd arall o benderfynu faint o siwgr, braster neu halen sydd mewn bwyd yw edrych ar y rhestr 'cynhwysion' - os yw'n bell i lawr y rhestr, mae'r bwyd yn debygol o fod â lefel isel ohono.

Gwyliwch rhag siwgr cudd

Chwiliwch am y geiriau hyn ar y labeli: swcros (sucrose), glwcos (glucose), ffrwctos (fructose), maltos (maltose), startsh wedi'i hydrolysu (hydrolysed starch), siwgr gwrthdro (invert sugar), surop corn (corn syrup), mêl.

Chwiliwch am y goleuadau traffig ar labeli bwyd

Mae rhai labeli bwyd yn defnyddio system o oleuadau traffig sy'n ei gwneud yn haws dewis bwyd sy'n isel mewn braster, siwgr a halen. Dewiswch fwy o labeli 'gwyrdd' ac 'oren' a llai o labeli 'coch'. 

Lleihau braster yn hawdd

Dyma rai triciau syml i'ch helpu i leihau faint o fraster rydych yn ei fwyta:

  • Gall taeniad, mayonnaise a dresin salad fod â llawer o fraster - chwiliwch am opsiynau gyda llai o fraster a cheisiwch ddefnyddio llai.
  • Griliwch neu bobwch yn lle ffrïo.
  • Mae llai o fraster ar gig gwyn na chig coch - dewiswch gyw iâr neu dwrci heb y croen.
  • Dewiswch ddarnau o gig gyda llai o fraster a draeniwch/torrwch unrhyw fraster amlwg i ffwrdd - ychwanegwch sbeis i gadw'r blas.

Cyfnewid eich hoff tecawê

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd yn eich siop tecawê leol - does dim rhaid i chi roi'r gorau i'ch hoff fwyd.

Prydau tecawê iach

Does dim rhaid i chi roi'r gorau'n llwyr i brydau tecawê, ond cofiwch ddewis yn ddoeth a gofalwch nad ydych yn eu bwyta'n rhy aml.

Pysgod a sglodion

Mae pob un ohonom wrth ein boddau gyda'r siop sglods. Ond drwy fwyta gormod o sglodion, gallech fagu tipyn o fol mewn dim o dro. Cofiwch mai'r sglodion mwyaf trwchus sydd orau, am eu bod yn amsugno llai o fraster.

Y dewis gwaethaf: sglodion tenau, pastai caws a winwns/nionod, pastai stêc a 'lwlod (steak and kidney pie), selsigen fawr.

Y dewis gorau: penfras (cod), hadog neu leden (plaice) (tynnwch y cytew [batter] oddi arno), pys slwtsh. Dognau llai o sglodion mwy trwchus heb halen (neu ychwanegwch yr halen eich hun).

Pizza

Dylech ddewis pizza â chrwst tenau bob amser. Mae pizzas padell ddofn yn llawn braster. Dewiswch lysiau, cyw iâr neu bysgod (ee tiwna) i'w rhoi ar ei ben gan fod llai o fraster ynddyn nhw, a chofiwch osgoi pepperoni a chaws ychwanegol.

Y dewis gwaethaf: pizza mawr padell ddofn, crwst wedi'i lenwi â chaws, pizza gyda thri math o gaws a pepperoni.

Y dewis gorau: pizza bach/canolig â chrwst tenau a llysiau/cig â llai o fraster ar ei ben.

Bwyd Tsieineaidd

Dylech osgoi unrhyw beth sydd mewn cytew (batter) neu sy'n 'grensiog' gan fod hynny'n golygu ei fod wedi'i ffrio'n ddwfn. Bwyd wedi'i stemio yw'r dewis gorau, ond mae prydau tro-ffrio yn iawn hefyd. Byddwch yn ofalus gyda chyrsiau cyntaf fel cracers corgimwch (prawn crackers) a chrempog llysiau/cig wedi'u rholio (spring rolls) - mae'r bwydydd hyn yn cael eu ffrio'n ddwfn fel arfer.

Y dewis gwaethaf: peli porc sur a melys mewn cytew gyda reis wedi'i ffrio mewn ŵy neu gyda reis wedi'i ffrio mewn ŵy mewn dull arbennig, tost corgimwch a chrempog llysiau/cig wedi'u rholio.

Y dewis gorau: cawl crancod ac india-corn, cig eidion mewn saws wystrys neu gyw iâr mewn saws ffa du, llysiau wedi'u stemio a reis plaen wedi'i ferwi.

Bwyd Indiaidd

Dylech osgoi unrhyw beth sy'n hufennog neu sydd wedi'i ffrio'n ddwfn. Y dewisiadau gorau yw cyri llysiau, cyw iâr tandoori, madras neu bhuna cyw iâr neu gorgimwch. Dylech eu bwyta gyda reis wedi'i ferwi, dhal neu chapattis. Os ydych chi yn dewis cael balti, defnyddiwch lwy i godi cymaint o olew ag y bo modd oddi ar y bwyd.  

Y dewis gwaethaf: unrhyw korma neu masala gyda reis wedi'i ffrio, bhajis, pakoras a poppadoms.

Y dewis gorau: madras, tandoori neu bhuna cyw iâr gyda reis wedi'i ferwi a dhal.

Cebabs a byrgyrs

Gweddillion cig sydd wedi'u tynnu oddi ar y carcas a'u gludo gyda'i gilydd gan ddefnyddio llawer iawn o fraster yw cebabs doner. Efallai fod cael gwybod hynny'n ddigon i droi arnoch ac i ladd yr awydd am cebab am byth. Ond os ydych chi yn dewis cael cebab neu fyrgyr, mae dewsiadau iachach ar gael.

Y dewis gwaethaf: cebab doner mawr heb salad, byrgyrs gyda chaws a mayonnaise.

Y dewis gorau: cebab shish cyw iâr gyda bara pitta a salad, byrgyrs wedi'u grilio sydd wedi'u gwneud o bysgod neu gig â llai o fraster, heb gaws a mayonnaise.  

Gwnewch Newid am Oes a chewch daflen reolaidd sy'n llawn cynghorion gwych i'ch helpu chi fwyta'n well a symud mwy!  

Ymunwch â Newid am Oes