Skip to content

Y Gwarant Beicio i’r Gwaith

Dolenni perthnasol

Darllenwch ein holl wybodaeth am yr ymgyrch Beicio am Oes.
Delwedd Beicio am Oes
Mae gweithlu iachach yn golygu cynhyrchiant uwch.  Mae beicio i’r gwaith yn ffordd wych i bobl gael eu hunain yn ffit ac yn iach ac i aros felly.

Mae’r Gwarant Beicio i’r Gwaith yn fenter wirfoddol, sy’n herio cyflogwyr i fod yn gefnogol o feiciau trwy ei gwneud yn hawdd i staff feicio i’r gwaith.  

Trwy ymuno â’r ymgyrch, gall sefydliadau yng Nghymru ddangos eu hymrwymiad i ddarparu’r cyfleusterau a’r cymhellion i helpu eu gweithlu ddod yn iachach, yn wyrddach ac yn fwy cynhyrchiol.  

Storio

Parcio diogel, hawdd ei gyrraedd ar gyfer beiciau.

Newid dillad

Cyfleusterau newid a loceri o safon uchel.

Prynu

Arbed rhywfaint ar gost offer beicio ac arbed ar y dreth drwy’r cynllun ‘Beicio i’r Gwaith.’  

Trwsio

Lle i drwsio beiciau ar y safle neu’n agos ato.  

Ysbrydoli

Hyfforddiant, a rhaglenni gwobrwyo ac anogaeth i gyrraedd targedau i gael mwy o bobl i feicio.

Mae'r Gwarant Beicio i'r Gwaith yn cael ei gydnabod gan y Safon Iechyd Corfforaethol a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach. Gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth wrth i fusnesau a sefydliadau wneud cais. Ewch i Cymru Iach ar Waith (dolen allanol)

Sefydliadau sydd wedi ymrwymo i'r Gwarant Beicio i'r Gwaith, Hydref 2010

Y Sector Preifat

ARUP
Eversheds LLP
Drover Holidays

Y Sector Cyhoeddus

Cyngor Caerdydd
Heddlu Gogledd Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Trydydd Sector/Sector Gwirfoddol

Cymdeithas Dai Cadwyn
Sherman Cymru