- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
5 y dydd
Dolenni perthnasol
Mae bwyta mwy o ffrwythau a llysiau yn bwysig i ni gyd, ond faint ohonom sy'n llwyddo i fwyta 5 y dydd?
Mae ffrwythau a llysiau yn llawn fitaminau, mwynau a ffibr hanfodol a allai leihau'r risg o glefydau difrifol fel canser a chlefyd y galon. Felly, mae'n bwysig bod plant yn bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd.
Gall fod yn haws na’r disgwyl i roi 5 dogn y dydd i'ch plant. Yn ogystal â ffrwythau a llysiau ffres, mae ffrwythau a llysiau tun ac wedi'u rhewi neu eu sychu yn cyfrif tuag at 5 y dydd, a hyd yn oed sudd ffrwythau 100%. Mae prynu ffrwythau a llysiau tun neu wedi'u rhewi, sydd ddim yn troi mor gyflym, yn arbed arian i chi hefyd yn ogystal â phrynu ffrwythau a llysiau ffres tymhorol.
Mae sawl ffordd o gael 5 dogn y dydd. Gallech ychwanegu llysiau i fwydydd poblogaidd fel sbageti bolonaise neu i sawsiau er mwyn rhoi mwy o liw a blas iddynt.
Gallech hefyd dretio'ch plant drwy roi llond llaw o resins iddynt. Mae pob cinio ysgol yn cynnwys o leiaf 2 dogn o ffrwythau a llysiau. Felly, mae hynny'n ffordd arall o gyrraedd y targed o 5 y dydd.
Mae siopa doeth yn beth da!
Cynghorion defnyddiol, ryseitiau blasus - mae digon o bethau y gallwch eu gwneud i helpu eich teulu i fwyta'n fwy iach. Ewch i'r dudalen Siopa'n ddoeth (dolen allanol, Saesneg yn unig)
