- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Cyfnewid bwydydd melys
Dolenni perthnasol
Ni fyddem byth yn caniatáu i'n plant fwyta siwgr yn syth o'r bowlen siwgr. Ond nid ydym bob amser yn meddwl am y siwgr sydd yn y bwydydd a'r diodydd eraill y maen nhw’n eu bwyta a'u hyfed.
Gall gormod o siwgr olygu gormod o egni, a gallai hynny arwain at ormod o fraster yn y corff a chlefydau fel diabetes math 2 a chlefyd y galon.
I atal hyn, mae nifer o deuluoedd yn cyfnewid bwydydd melys. Maen nhw’n cyfnewid bwydydd a diodydd sydd â siwgr ychwanegol am fwydydd sy'n cynnwys llai o siwgr neu sydd heb siwgr o gwbl.
Mae mwy na chwarter y siwgr ychwanegol a gaiff ein plant yn deillio o ddiodydd melys. Felly, mae yfed dŵr, llaeth (hanner sgim yn ddelfrydol), diodydd heb siwgr, sgwash heb siwgr neu sudd ffrwythau heb siwgr yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae siopa'n ddoeth yn beth da!
Cynghorion defnyddiol, ryseitiau blasus - mae digon o bethau y gallwch eu gwneud i helpu eich teulu i fwyta'n fwy iach. Ewch i'r dudalen Siopa'n ddoeth (dolen allanol, Saesneg yn un ig)
Syniadau
Dyma rai pethau hawdd i'w cyfnewid, ac a fydd yn golygu bod plant yn gallu mwynhau eu bwyd heb fwyta gormod o siwgr.
Cyfnewid diodydd
Dewiswch ddiodydd heb siwgr ychwanegol yn lle diodydd melys ee dŵr, llaeth (hanner sgim yn ddelfrydol - ond cofiwch fod angen llaeth braster llawn ar blant dan 2 oed), sudd ffrwythau heb ei felysu neu hyd yn oed diodydd byrlymog heb siwgr.
Cyfnewid snacs
Dewiswch snacs heb siwgr ychwanegol fel ffrwythau, cnau heb halen, ffyn bara, cacennau reis neu dost yn lle melysion, bisgedi, siocled, cacennau a thoesenni.
Cyfnewid ar sail labeli bwyd
Cymharwch y labeli ar fwydydd pan fyddwch yn siopa, a dewiswch y bwyd sydd â llai o siwgr neu sydd heb siwgr o gwbl. Mae system goleuadau traffig ar rai pecynnau, sy'n ei gwneud yn haws dewis bwyd sydd â llai o siwgr. Dewiswch mwy o fwydydd 'gwyrdd' a 'melyn' a llai o fwydydd 'coch'.
Cyfnewid brecwast
Dewiswch rawnfwydydd sydd â llai o siwgr ynddyn nhw neu bethau eraill fel ffrwythau neu dost (ond gofalwch mai haenen denau o jam neu fêl yr ydych yn ei daenu arno).
Cyfnewid pwdinau
Dewiswch bwdinau sydd â llai o siwgr ynddynt ee iogwrt neu ffrwythau, yn lle bwydydd melys fel siocled, bisgedi a chacennau. Neu gallech gymharu'r label ar ddau bwdin a dewis yr un sydd â llai o siwgr ynddo.
Cyfnewidiwch gymaint o bethau â phosibl mewn wythnos.
Ymunwch nawr neu ffoniwch 0800 100 900 rhwng 9am a 9pm ddydd Llun tan ddydd Gwener, a rhwng 9am a 12pm ddydd Sadwrn (ffoniwch 029 2090 6801 os ydych yn defnyddio ffôn symudol) i gael rhagor o wybodaeth.
