- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Canser
Rhowch y gorau i ysmygu
Ledled y byd, ysmygu yw’r ffactor unigol mwyaf sy’n achosi canser. Os ydych chi’n ysmygu, rhoi’r gorau iddi yw’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud ar ran eich iechyd.
Cadwch yn heini
Mae cario gormod o bwysau neu ordewdra yn cynyddu’ch risg o ddioddef o ganser y coluddyn, yr aren, y bibell fwyd, y goden fustl, y pancreas a’r groth. Mae hefyd yn cynyddu’r risg o ddioddef o ganser y fron mewn menywod sydd wedi bod drwy’r menopos.
Ewch ati’n rheolaidd i wneud ymarfer corff
Dangoswyd bod ymarfer corff yn lleihau’r risg o ddioddef o ganser y coluddyn a chanser y fron. Ceisiwch wneud o leiaf hanner awr o ymarfer corf cymedrol bum niwrnod yr wythnos neu fwy.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta ac yn yfed yn iach
Mae ein deiet yn effeithio ar ein risg o ddatblygu mathau penodol o ganser, gan gynnwys canser y coluddyn, y stumog, y geg, a’r bibell fwyd.
Cyfyngwch ar alcohol
Mae yfed alcohol yn cynyddu’r perygl o ddatblygu canser y geg, y laryncs, y bibell fwyd, yr afu, y coluddyn, y fron, ac yn rhan uchaf y gwddf. Po fwyaf o alcohol rydych chi’n ei yfed, mwyaf yn y byd yw’r risg. Yn achos unrhyw un sy’n yfed yn rheolaidd, bydd y risg yn lleihau wrth i chi leihau ar yr alcohol.
Herio’r Haul
Mae gormod o haul yn heneiddio’ch croen, a gall achosi canser y croen.
Trefnwch eich bod yn cael eich sgrinio am ganser
Gall profion ‘sgrinio’ ganfod newidiadau anarferol yn gynnar, sy’n golygu bod triniaethau’n fwy effeithiol.
Rhyw diogel
Gall rhai heintiau a drosglwyddir yn rhywiol achosi canser. Mae’r feirws hepatitis B yn un o’r achosion mwyaf cyffredin ar gyfer canser mae’n dechrau yn yr afu, a gellir ei ledaenu trwy ryw heb ddiogelwch.
Achosir bron pob achos o ganser ceg y groth Gan y Feirws Papiloma Dynol (HPV). Mae HPV yn gyffredin iawn, ond ni fydd y rhan fwyaf o fenywod sydd wedi dioddef ohono yn mynd ymlaen i ddioddef o ganser ceg y groth.
