Skip to content

Menywod a chlefyd cardiofasgiwlar

Afiechydon y galon a chylchredol yw’r achosion mwyaf cyffredin o farwolaeth yng Nghymru.

Mae clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yn lladd mwy o fenywod na chyfanswm yr holl ffurfiau ar ganser.

Ysmygu

Mae ysmygu yn un o brif achosion clefyd cardiofasgwlaidd. Mae pobl sy’n ysmygu bron ddwywaith yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon na phobl nad ydynt erioed wedi ysmygu. Os ydych yn ysmygu, rhoi’r gorau i ysmygu yw’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i leihau’r risg o gael trawiad ar y galon ac i fyw’n hirach. I gael cymorth i roi’r gorau i ysmygu, ffoniwch Dim Smygu Cymru ar y rhif 0800 085 2219 neu’r Llinell Gymorth i Smygwyr yng Nghymru ar y rhif 0800 169 0 169.

Pwysedd gwaed

Pwysedd gwaed yw pwysedd y gwaed yn eich rhydwelïau a dylai fod dan 140/85 i’r rhan fwyaf ohonom. Pwysedd gwaed uchel yw’r cyflwr pan fydd pwysedd eich gwaed yn uwch na’r lefel a argymhellir, a hynny’n gyson.
Gallwch fynd i’ch meddygfa i fesur pwysedd eich gwaed a derbyn cyngor ac mae llawer o fferyllfeydd lleol yn cynnig y gwasanaeth hwn hefyd.

Colesterol

Sylwedd brasterog yw colesterol, sydd i’w gael yn y gwaed. Y prif reswm pam mae gan rai ohonom ormod o’r math niweidiol (lipoprotein dwysedd isel) yw cael gormod o fraster dirlawn yn ein deiet; ond gall ffactorau genetig ei achosi hefyd.

Diabetes

Mae diabetes yn cynyddu’r risg o glefyd cardiofasgwlaidd yn sylweddol a gall achosi problemau iechyd difrifol eraill hefyd. Mae’n bwysig lleihau eich risg o ddatblygu diabetes (math 2) yn y lle cyntaf, trwy fyw’n iach. Os ydych wedi derbyn diagnosis o ddiabetes, mae’n bwysig rheoli eich cyflwr yn briodol er mwyn lleihau’r risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd. Bydd eich nyrs practis neu’ch meddyg teulu yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i reoli eich cyflwr er mwyn lleihau eich risg.

Ymarfer Corff

Mae gan y rhai sy’n gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd hanner y risg o farw o glefyd coronaidd y galon o’u cymharu â’r rhai nad ydynt yn gwneud ymarfer corff. Y math o weithgarwch a argymhellir ar gyfer calon iach yw ymarfer corff rhythmig (aerobig), cymedrol fel cerdded yn gyflym, beicio neu nofio. Ceisiwch wneud o leiaf 30 munud o weithgarwch corfforol â dwysedd cymedrol o leiaf pum diwrnod yr wythnos.

Pwysau iach

Gall bod dros eich pwysau gynyddu eich risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd; mae mwy o risg i’r rhai sydd â gordewdra abdomenol hefyd. Bydd colli pwysau yn helpu i leihau lefel eich colesterol a lleihau eich risg o ddatblygu diabetes. Os ydych yn bwyta llawer o fwyd brasterog neu os ydych yn bwyta mwy o galorïau nag y mae eich corff yn eu llosgi, byddwch yn ennill pwysau.

Alcohol

Bydd yfed gormod yn codi pwysedd eich gwaed a phwysau eich corff ac yn niweidio eich iau a’ch arennau. Os ydych yn yfed alcohol, sicrhewch eich bod yn yfed o fewn terfyn synhwyrol. Ni ddylai menywod yfed mwy na 2 i 3 uned y dydd. Mae’n bwysig cael o leiaf un neu ddau ddiwrnod heb alcohol hefyd.

Y bilsen atal cenhedlu

Mae gan fenywod sy’n cymryd y bilsen atal cenhedlu, yn enwedig y rhai sy’n ysmygu hefyd, risg ychydig yn uwch o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd. Mynnwch air â’ch meddyg teulu am sut i sicrhau bod pwysedd eich gwaed yn cael ei fonitro wrth i chi gymryd y bilsen atal cenhedlu.

Diwedd y Mislif/Therapi Adfer Hormonau

Mae gan fenywod risg ychydig yn is o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd cyn diwedd y mislif ond nid yw rhagnodi Therapi Adfer Hormonau ar ôl diwedd y mislif yn lleihau’r risg honno.

Cael cymorth

Os ydych yn poeni am glefydau cardiofasgwlaidd, ewch i weld eich meddyg teulu neu’ch nyrs practis, a fydd yn rhoi I chi ‘asesiad iechyd y galon’ a elwir hefyd yn ‘asesiad risg cardiofasgwlaidd’.