- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Demensia
Dolenni perthnasol
Y mathau mwyaf cyffredin o Demensia yw clefyd Alzheimer a demensia fasgwlaidd. Mae'r clefydau hyn yn achosi difrod i gelloedd yr ymennydd, fel nad yw'n gweithio cystal ag y dylai. Mae hyn yn achosi problemau o ran cofio, cyfathrebu a meddwl. Yn ôl yr ymchwil, mae nifer o ffactorau'n effeithio ar y risg o ddatblygu demensia.
Deiet
Mae'r dystiolaeth wedi dangos bod y risg o ddatblygu demensia yn llai os ydych yn bwyta pysgod seimllyd unwaith yr wythnos ac yn cynyddu'r asid ffolig yn eich deiet. Mae ffynonellau da o asid ffolig yn cynnwys grawnfwyd cyfnerthedig, llysiau gwyrdd deiliog a sudd oren.
Yn gyffredinol, dylech geisio:
- bwyta rhagor o ffrwythau a llysiau;
- bwyta o leiaf 2 gyfran yr wythnos o bysgod ffres, mewn tun neu wedi'u rhewi;
- torri i lawr ar halen, braster a siwgr yn eich deiet;
- bwyta rhagor o fwydydd startslyd fel bara, grawnfwydydd brecwast, reis, pasta a thatws.
Cadw’r ymennydd yn effro
Mae'n bosibl bod ymarfer yr ymennydd trwy wneud posau a gemau yn ysgogi mwy o gysylltiadau rhwng celloedd yr ymennydd ac yn helpu i atal demensia rhag datblygu. Gwnewch weithgareddau i gadw'ch ymennydd yn effro, e.e.:
- darllen;
- chwarae cardiau;
- gemau bwrdd a bingo;
- gwneud croeseiriau a phosau eraill;
- mynd i ddosbarthiadau dydd neu nos
- dysgu i chwarae offeryn cerdd neu siarad iaith.
Gweithgarwch corfforol
Mae rhai astudiaethau'n dangos bod gweithgarwch corfforol rheolaidd yn lleihau'r tebygrwydd o ddatblygu demensia. Argymhellir i chi anelu at o leiaf 30 munud o weithgarwch cymedrol, y rhan fwyaf o ddyddiau. Gweithgarwch cymedrol yw rhywbeth fel cerdded yn gyflym neu arddio - digon i'ch cynhesu a chael eich calon i guro'n gynt. Gall newidiadau bach i drefn eich diwrnod wneud gwahaniaeth mawr. Rhowch gynnig ar weithgareddau fel:
- cerdded,
- beicio,
- garddio,
- golchi'r car,
- glanhau'r ffenestri,
- defnyddio'r grisiau yn hytrach na'r lifft,
- dawnsio,
- nofio neu ymuno â champfa.
Cymdeithasu
Yn ôl rhai astudiaethau, ymddengys bod rhwydwaith cymdeithasol eang yn helpu i warchod pobl rhag datblygu demensia. Cymerwch ran yn y byd o'ch cwmpas a cheisiwch wneud rhywbeth cymdeithasol bob dydd:
- cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau;
- ymuno yng ngweithgarwch y gymuned;
- gwirfoddoli ar gyfer rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi;
- ymuno â chlwb neu ddosbarth.
Gallai gweithgareddau sy'n cyfuno ysgogiad meddyliol, corfforol a chymdeithasol fod hyd yn oed yn well i leihau'r risg o ddemensia.
Cynghorion eraill ar gyfer lleihau'r risg
- Ewch am wiriadau iechyd rheolaidd ac ewch i wirio'ch pwysau gwaed a'ch colesterol o leiaf unwaith bob pum mlynedd.
- Os ydych yn smygu, rhowch gorau iddi. Mae smygu'n effeithio ar eich cylchrediad gwaed a gall gynyddu'r risg o ddemensia.
- Dylech gadw pwysau corff iach gan fod pobl sy'n ordew yn llawer mwy tebygol o ddatblygu demensia yn ddiweddarach yn eu hoes na phobl sydd â phwysau gwaed arferol.
- Byddwch yn gymedrol wrth yfed alcohol gan fod yfed gormod yn gallu achosi demensia sy'n gysylltiedig ag alcohol. Os ydych yn yfed alcohol, peidiwch ag yfed mwy na'r uchafswm o 3 neu 4 uned y diwrnod i ddynion a 2 neu 3 uned y diwrnod i ferched.
