- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diabetes
Atal
P’un a ydych mewn perygl o ddatblygu diabetes ai peidio, mae’n werth gwybod sut i osgoi datblygu’r cyflwr. Y prif ffactor sy’n eich rhoi mewn perygl o ddatblygu diabetes Math 2 yw bod yn ordrwm neu’n ordew, yn enwedig os ydych wedi magu gormod o floneg o gwmpas eich stwmog.
Ymarfer corff
Yn eich helpu i gadw’ch pwysau yn sefydlog. Mae hefyd yn eich gwneud yn llai tebygol o ddatblygu ymwrthedd i insiwlin sy’n digwydd pan nad yw eich corff yn ymateb cystal i’r insiwlin mae’n ei gynhyrchu. Bydd cael cwta 30 munud o ymarfer corff sy’n gwneud i chi golli ychydig o wynt, a hynny bum diwrnod yr wythnos, yn ddigon i leihau’r perygl o fagu gormod o bwysau. Mae angen i blant ymarfer am 60 munud, bum diwrnod yr wythnos.
Deiet
Mae diet iach yn isel mewn braster dirlawn, halen a siwgr ychwanegol. Ceisiwch fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd a bwytewch brydau bwyd rheolaidd yn ystod y dydd i gadw lefel y glwcos yn y gwaed yn sefydlog. Bwytewch fwy o fwydydd carbohydrad , er enghraifft bara, pasta, reis neu datws.
Alcohol
Mae llawer o galorïau mewn alcohol, sy’n ei gwneud yn fwy anodd cadw pwysau sefydlog. Peidiwch ag yfed mwy na’r cyfanswm o alcohol sy’n cael ei argymell, sef dim mwy na 2-3 uned y dydd i fenywod a dim mwy na 3-4 uned y dydd i ddynion.
Ble i gael help a chyngor
Diabetes UK yw’r brif elusen sy’n gweithio dros bobl â diabetes. Mae’n ariannu gwaith ymchwil, yn ymgyrchu ac yn helpu pobl i fyw gyda’r cyflwr. Ei bwriad yw gwella bywydau pobl â diabetes a gweithio tuag at ddyfodol heb ddiabetes.
I gael mwy o wybodaeth am ddiabetes a chymorth, cysylltwch â Diabetes UK Cymru ar 02920 668276 neu ewch i’r wefan, sef Diabetes UK (dolen allanol, Saesneg yn unig)
